Traeth Abermawr

Mae Abermawr yn draeth gwledig, anghysbell gyda llethr o gerrig mân a chlogwyni o bridd y tu ôl iddo.

Mae llanw isel yn datgelu tywod euraid a bonion coed – gweddillion coedwig a foddwyd gan lifogydd sydyn wrth i haenen o iâ doddi 8000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r halen wedi cadw’r bonion yn berffaith. Tu ôl i’r traeth mae adfail bwthyn diddorol, ardal gorsiog yn llawn bywyd gwyllt a choedwig o glychau’r gog ar lechwedd yn y pen deheuol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi! Hefyd, mae gan Preseli Venture we-gamera byw yn edrych i lawr ar y traeth felly gallwch weld sut mae’r tywydd cyn i chi fentro yno!

Parcio

Nifer cyfyngedig iawn ar y ffordd uwchben y traeth.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf ym Mathri, sydd â thafarn. Mae gwestai, gwely a brecwast, llety ymwelwyr, meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal ac mae mwy o ddewis yn Abergwaun.

  • Nofio
  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Traeth Cerrig Mân
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Syrffio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi