Traeth Aberllydan

Traeth hir, cul o dywod a cherrig mân pan fydd y llanw’n uchel ond ar lanw isel mae’n draeth enfawr o dywod cadarn sydd â digon o le i bawb – a gan ei bod yn ddiogel i nofio yma, mae’n gallu bod yn brysur yn ystod misoedd yr haf.

Mae’r clogwyni ar y ddwy ochr yn rhoi cysgod i rai o’r baeau. Ar lanw isel mae’n bosibl cerdded o gwmpas y trwyn ar yr ochr ddeheuol i fae o’r enw traeth Settlands. Gallwch gerdded o gwmpas y trwyn nesaf i Aberbach. Cofiwch gadw llygad ar y llanw!

Mae cyfyngiadau ar gŵn ar draean gogleddol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn eich helpu i weld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.  Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Gwobr Glan Môr 2019

Parcio

Dau faes parcio gyda hyd at 200 o leoedd. Mae’r maes parcio bach ar lan y môr yn llenwi’n gyflym iawn.

Cyfleusterau

Toiledau, llithrfa, ac mae gwylwyr y glannau ar gael rhwng diwedd mis Mehefin a dechrau mis Medi.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae gan Aberllydan siop a swyddfa bost, 3 tafarn, bwyty, ystafelloedd te a choffi, caffi, tecawe a siopau sy’n gwerthu a llogi dillad ac offer chwaraeon dŵr. Mae dewis da o lety ymwelwyr, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â meysydd carafanio a gwersylla

  • Nofio
  • Caffi
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Toiledau Anabl
  • Cyfyngiadau ar Gŵn
  • Cymorth Cyntaf
  • Gwyliwr y Glannau
  • Traeth Cerrig Mân
  • Ffôn
  • Creigiog
  • Hwylio
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Rhwyfo Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Llithrfa neu Fan Lansio
  • Nant
  • Gweithgareddau Tanfor
  • Syrffio
  • Toiledau
  • Hwylfyrddio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi