Traeth Aberfelin

Traeth bach llanw isel o dywod a graean, ger Tre-fin. Mae’n ardderchog ar gyfer archwilio pyllau glan môr ond nid yw’n addas ar gyfer nofio mewn gwirionedd.

Gan fod hwn yn un o’r ychydig fannau lle mae’r ffordd yn dod yn agos at y môr ar hyd y rhan hon o’r arfordir, mae’n lle da i ddechrau neu orffen cerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar ochr y ffordd.

Cyfleusterau

Dim

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau. Tafarn a chaffi yn Nhre-fin sydd gerllaw.

  • Clogwyni
  • Creigiog
  • Pysgota Môr
  • Traeth Graeanog
  • Gweithgareddau Tanfor
  • Toiledau