Traeth Abereiddi
Mae hwn yn draeth gwledig o gerrig mân a thywod tywyll a grëwyd o lechi llwyd wedi’u malu.
Yr un lechen sy’n rhoi’r lliw glas dwfn a disglair i ddŵr ‘Y Shinc’; harbwr bychan hardd – chwarel wedi’i boddi – i’r gogledd o’r traeth.
Cofiwch bod ceryntau cryf ar draeth Abereiddi. Mae’n fan poblogaidd ar gyfer arfordiro oherwydd gallwch ddringo ar hyd y clogwyni ar lefel y môr gan neidio i’r môr mewn mannau na allwch fynd heibio iddynt. Awgrymir eich bod yn mwynhau arfordiro fel rhan o grŵp wedi ei drefnu (chwiliwch am ddarparwyr arfordiro yma). Mae rhes o adfeilion bythynnod i chi grwydro o’u cwmpas ar hyd ymyl yr hen chwarel.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael ei eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019 a Gwobr Glan Môr (Gwledig) 2019
Parcio
Nifer cyfyngedig o leoedd parcio.
Cyfleusterau
Toiledau, llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Yn Nhyddewi mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol sydd ar agor drwy’r flwyddyn, nifer o gaffis, tafarndai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, meysydd carafanau, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo.
- Nofio
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Canŵio
- Clogwyni
- Gwobr Arfordir Gwyrdd
- Ffôn
- Pyllau Glan Môr
- Creigiog
- Traeth Tywodlyd
- Lithrfa neu Fan Lansio
- Gweithgareddau Tanfor
- Syrffio
- Toiledau (tymhorol)