Traeth Aberbach
Traeth bychan o gerrig mân yw Aberbach, ond ar lanw isel daw tywod euraid i’r golwg.
Mae’n lle ardderchog i wylio morloi’n chwarae neu’r tonnau’n torri ar y lan pan fydd hi’n wyntog. Yn ôl chwedl leol, daliodd ffermwr forforwyn yma.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi.
Parcio
Nifer cyfyngedig o leoedd ar y ffordd uwchben y traeth.
Cyfleusterau traeth
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae’r cyfleusterau agosaf ym Mathri, ble mae tafarn. Mae gwestai, gwely a brecwast, tai llety a meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal ac mae mwy o ddewis yn Abergwaun.
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Clogwyni
- Traeth Cerrig Mân
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr