Traeth Aber Bach
Cilfach fechan dywodlyd a chreigiog sydd bob amser â thywod, boed ar lanw uchel neu isel. Mae’n fan poblogaidd ar gyfer cychod gan fod llithrfa i’r traeth.
Mae llwybr sy’n addas ar gyfer coetsis/cadeiriau olwyn yn arwain at y Point, sy’n fan da i weld golygfeydd. Gallwch ymlwybro i lawr y llwybr serth at draeth cerrig mân arall sef y ‘Sheep Wash’, a ddefnyddiwyd gan ffermwr lleol 50 mlynedd yn ôl i olchi defaid cyn eu cneifio. Bellach mae’n fae bach poblogaidd, cysgodol a diogel i nofio ynddo.
Wrth i’r llanw fynd allan, mae’n bosibl i chi gerdded o gwmpas y trwyn i fae tywodlyd llydan o’r enw’r Settlands. Ar lanw isel, gallwch gerdded yr holl ffordd i Aberllydan ar hyd y traeth.
Mae digon o byllau glan môr i’w harchwilio. Chwiliwch am sêr môr ond peidiwch ag aflonyddu arnynt. Mae’r nant yn lledu wrth iddi lifo lawr y traeth gan dueddu i’w gwneud yn rhy wlyb i chwarae ac adeiladu cestyll tywod.
Mae’r pentref yn gartref i orsaf bad achub yr RNLI ac yma mae siopau’r ardal.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Nifer cyfyngedig o leoedd talu ac arddangos yn y pentref.
Cyfleusterau
Toiledau, Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae siop, caffi, nifer o dafarnau a dewis da o leoedd gwely a brecwast, tai llety a hunanarlwyo yn ogystal â meysydd carafanau a gwersylla yn Aber Bach ac Aberllydan.
- Nofio
- Caffi
- Canŵio
- Maes Parcio
- Ffôn
- Creigiog
- Hwylio
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Rhwyfo Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Llithrfa neu Fan Lansio
- Nant
- Gweithgareddau Tanddwr
- Toiledau
- Sgïo Dŵr
- Hwylfyrddio