Harbwr Porthclais
Harbwr neu gildraeth bach hardd ger Tyddewi.
Mae hwn yn lle poblogaidd ar gyfer lansio canŵod a chaiff ei ddefnyddio’n gyson gan ganolfannau gweithgareddau.
Traeth graean yw hwn ac felly nid yw’n draeth nofio ond mae’n lle da i ddechrau neu orffen taith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir.
I’r dwyrain o’r harbwr mae’r graig fwyaf poblogaidd ar gyfer ymarfer dringo.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Ychydig o leoedd parcio yn rhad ac am ddim.
Cyfleusterau
Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Dim. Mae’r bwyd a diod agosaf yn Nhyddewi.
- Canŵio
- Maes Parcio
- Harbwr
- Angori
- Ffôn
- Hwylio
- Pysgota Môr
- Llithrfa neu Fan Lansio
- Gweithgareddau Tanddwr
- Toiledau