Bae Watwick
Bae Watwick
Mae cychod sy’n pasio yn aml yn galw i gael eu cinio ar y traeth tywodlyd, cysgodol a thawel hwn.
Mae pyllau glan môr gwych tuag at y pen dwyreiniol ac ambell ogof i’w harchwilio.
Dim ond o lwybr yr arfordir y gallwch chi gyrraedd y traeth hwn.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Dim.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae’r cyfleusterau agosaf yn Dale. Caffi/bwyty a thafarn. Mae canolfan weithgareddau sy’n darparu hyfforddiant chwaraeon dŵr a dewis bychan o leoedd gwely a brecwast a llety hunanarlwyo.