Bae Lindsway

Dim ond ar hyd llwybr yr arfordir neu ar draws y caeau chwarae o bentref Llanisan-yn-Rhos y mae modd cyrraedd y traeth yma.

Gan fod clogwyni uchel yn amgylchynu’r traeth, mae’n ddiarffordd iawn ac ar ei orau pan fydd y llanw’n isel ac ardal eang o dywod a phyllau glan môr i’w gweld.

Cymerwch ofal gan fod y grisiau sy’n arwain lawr i’r traeth yn serth.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae’r lle parcio agosaf yn Llanisan-yn-Rhos.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf ym mhentref Llanisan-yn-Rhos, lle mae tafarn a dewis cyfyngedig o leoedd gwely a brecwast a llety hunanarlwyo.

  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi