Bae Dwyrain Angle
Bae o fflatiau tywod a llaid sy’n cael fawr iawn o ymwelwyr. Mae hon yn ardal fwydo bwysig i adar hirgoes ac felly mae’n lle perffaith i wylio adar.
Trowch oddi ar ffordd Angle tuag at Rhoscrowdder. Cymerwch y troad nesaf i’r chwith ar hyd ffordd gul ac ewch yn syth yn eich blaen dros y groesffordd nesaf tuag at y bae.
Gallwch ddilyn y ffordd at Fort Popton ar ochr ddwyreiniol y bae. Mae hon yn un o’r caerau a adeiladwyd yng nghyfnod Napoleon er mwyn amddiffyn dociau’r llynges yn Noc Penfro.
Roedd y llethrau a’r ffosydd ar ochr ddwyreiniol y bae yn rhan o burfa olew a gafodd ei dymchwel amser maith yn ôl.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae llawer o leoedd parcio ar hyd y ffordd o gwmpas y bae.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Toiledau. Mae’r cyfleusterau bwyd a diod agosaf yn Angle.
- Canŵio
- Aber
- Fflatiau llaid
- Hwylio
- Llithrfa neu Fan Lansio