Bae Barafundle

Mae’n debyg mai “Anhygoel!” yw’r gair gorau i ddisgrifio’r traeth yma.

Bae bychan gyda thwyni tywod a choed pinwydd y tu ôl iddo: yr unig ffordd o gyrraedd yno yw cerdded yr hanner milltir o’r maes parcio agosaf. Gyda’i dywod euraid a’i ddŵr yn glir fel grisial, mae Barafundle yn aml yn cael ei enwi’n un o draethau gorau Prydain, a’r byd; caiff ei gymharu’n aml ag un o draethau’r Caribî! Mae’r traeth perffaith hwn yn ddiarffordd, sy’n golygu nad oes cyfleusterau yma; felly mae’n rhaid i bopeth y byddwch yn ei gario yma gael ei gario’n ôl dros y clogwyni.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Mae Barafundle’n un o’r nifer fawr o leoedd y gallwch ymweld â nhw os fyddwch chi’n treulio 48 awr ym Mhenfro.

Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019 a Gwobr Glan Môr 2019

Parcio

Mae’n rhaid cerdded hanner milltir o faes parcio Cei Ystangbwll. Ddim yn addas ar gyfer coetsis na chadeiriau olwyn oherwydd y nifer fawr o risiau o ben y clogwyn i’r traeth.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Caffi a thoiledau yng Nghei Ystangbwll. Mae gan bentref Ystangbwll dafarn sy’n gwneud bwyd ac mae dewis o lety hunanarlwyo yn yr ardal.

  • Nofio
  • Gwobr Arfordir Gwyrdd
  • Twyni Tywod
  • Traeth Tywodlyd
  • Traeth Gwobr Glan Môr

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi