Traeth Amroth

Mae Amroth yn draeth tywodlyd, gwastad, hanner milltir o hyd. Pan fydd y llanw’n isel mae darn enfawr o dywod sy’n ardderchog ar gyfer pob math o gemau traeth.

Mae pyllau glan môr yn y pen gorllewinol a grwynau ym mhen uchaf y traeth.

Mae cyfyngiadau ar gŵn yng nghanol a phen gorllewinol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth i’ch helpu i weld i ba rannau o’r traeth mae hyn yn berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Traeth Baner Las 2019

Parcio

Maes parcio ym mhentref Amroth (dilynwch yr arwyddion) a pharcio ar hyd wal y môr.

Cyfleusterau

Gwyliwr y glannau o ddechrau mis Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Llithrfa.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau, siop, siop sglodion/hufen iâ/ caffi a nifer o dafarnau sy’n gwerthu bwyd.

  • Nofio
  • Caffi
  • Canŵio
  • Toiledau Anabl
  • Cyfyngiadau ar Gŵn
  • Cymorth Cyntaf
  • Maes Parcio am Ddim
  • Gwyliwr y Glannau
  • Ffôn
  • Cychod Modur
  • Creigiog
  • Hwylio
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Toiledau
  • Sgïo Dŵr

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi