Mae’r ynys hon yn SoDdGA .....

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Cartref i amrywiaeth rhyfeddol o fflora, ffawna a golygfeydd godidog

Ynys Sgogwm, Sir Benfro, Cymru

Mae Ynys Sgogwm yn eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ers 2006 ac mae’n union i’r de o Ynys Sgomer.

Mae’r ynys tua milltir o hyd a hanner milltir o led yn y man lletaf. Mae’r ynys hon, sydd mewn Gwarchodfa Natur Forol, yn rhan o sioe ryfeddol o fywyd gwyllt.

Yng nghanol riffiau a moroedd cyfoethog, mae’r ynys yn gartref i amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, gan gynnwys miloedd o balod ac adar drycin Manaw, poblogaeth fawr o bedrynnod drycin a hefyd, yn aml, adar mudol diddorol sydd ar eu taith. Mae’r ynys hefyd wedi’i gorchuddio â blodau gwylltion a chen rhyfeddol o hardd.

Yn y moroedd o gwmpas yr ynys gallwch weld dolffiniaid Risso, llamhidyddion harbwr a morloi llwydion ac ymhellach allan yn y môr, mae morfilod mwy i’w gweld. Mae’n lle anhygoel i ymweld ag ef.

Mae Llety dros nos i’w gael ar gyfer nifer cyfyngedig o bobl am gyfnod byr bob blwyddyn. Mae’r llety wedi cael ei adnewyddu diolch i griw o wirfoddolwyr a ‘Chyfeillion yr Ynysoedd’. Mae pedair ystafell gyda dau wely sengl ac un ystafell ddwbl yn y beudai sydd wedi’u hadnewyddu, un ystafell gyda dau wely sengl a phedair ystafell sengl yn y bwthyn a dwy ystafell arall gyda dau wely sengl yn hen adeilad y warden.

Mae Ynys Sgogwm yn lle gwyllt a hardd i aros, yn dawelach ac yn llai na’i chwaer ynys, Sgomer.

Sut i gyrraedd yno

Ni chaniateir i chi lanio ar yr ynys oni bai eich bod yn rhan o daith diwrnod wedi ei threfnu (ewch i wefan Yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt am fanylion), neu eich bod ymhlith y rhai sydd wedi trefnu llety, y defnyddir cychod sydd wedi eu trefnu’n arbennig ar eu cyfer.

Mae saffari bywyd gwyllt neu daith cwch yn ffordd dda o weld yr ynys ac mae’n arbennig o dda ar gyfer gweld heidiau o adar yn dychwelyd at eu cywion.