Cartref i 39,000 pâr o huganod!
Ynys Gwales, Sir Benfro, Cymru
Darn bychan, gwyn o dir, ll milltir o’r arfordir yw Gwales.
Wrth i chi agosáu at yr ynys, byddwch yn dechrau deall pam ei bod yn wyn. Mae’n gartref i 39,000 pâr o huganod magu, yr unig nythfa o huganod yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Daw’r ynys yn fyw ddechrau’r gwanwyn gyda’r huganod yn dychwelyd i’r ynys o ddiwedd mis Chwefror ymlaen. Mae’r awyr yn llawn gwrywod yn dychwelyd gyda deunyddiau nythu, yn awyddus i sefydlu eu tiriogaeth er mwyn denu cymar.
Caiff un ŵy ei ddodwy fis Ebrill ac mae’r cywion yn dechrau deor ddechrau mis Mehefin. Yna bydd y ddau riant yn bwydo’r cywion am 90 diwrnod nes eu bod wedi cyrraedd eu llawn dwf ac yn barod i adael yr ynys ddiwedd fis Awst a thrwy gydol mis Medi.
Gan ei bod yn un o dim ond 23 o nythfeydd huganod yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae Gwales yn bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n sioe anhygoel o adar môr nad oes ei thebyg unman yng Nghymru ar gyfer y rhywogaeth hon.
Mae Gwales yn warchodfa RSPB gyda pholisi ‘dim glanio’ llym, ond mae nifer o gwmnïau cychod yn cynnig teithiau i’r ynys er mwyn i ymwelwyr gael blas ar y golygfeydd a’r arogleuon rhyfeddol.
Sut i gyrraedd yno
Mae teithiau cwch ar gael o Martins Haven gyda Dale Sailing, neu gyda Thousand Islands a Voyages of Discovery o St Justinians.