Ynys Sgomer

Nefoedd yr adarwyr!

Peidiwch ag anghofio’ch binocwlars – fe fyddwch chi eu hangen!

Gwylio adar yn Sir Benfro

Mae Sir Benfro’n lle gwych i wylio adar.

Yn y gwanwyn, mae adar hynny sydd ond yn dod i’r wlad hon i fagu yn cyrraedd, adar fel gwenoliaid, teloriaid a nifer o adar y môr. Dan yr amodau cywir, efallai y gwelwch chi heidiau o adar mewnfudol o gwmpas yr arfordir neu ar yr ynysoedd, adar fel y pengeimion neu fwyalchod mynydd, neu rywbeth annisgwyl wrth gwrs. Ddiwedd y gwanwyn hefyd mae’r palod bach doniol yn dychwelyd i Ynys Sgomer. Bydd y rhain yn casglu ynghyd dros y môr yn gyntaf, cyn dychwelyd i’w nythod ar yr ynys.

Mae’r haf yn amser da i ymweld â nythfeydd adar môr er mwyn mwynhau bwrlwm a sioe eu bywyd magu brysur. Mae Staciau’r Heligog ar Faes Tanio Castell Martin, Y Wig ar Ynys Sgomer, a Gwales yn ferw o adar môr yn ymladd am eu lle ar y clogwyn. Cadwch olwg am yr hebogiaid tramor, y cigfrain a’r brain coesgoch sy’n byw yn yr un cynefin.

Fe gewch funudau tawelach yn y coedwigoedd lleol lle mae’r gwybedog brith a thelor y coed yn nythu. Dylech weld bwncathod bron ym mhobman.

Daw mudo’r hydref ag ambell i sypreis yn ei sgil. Gall stormydd o Fôr Iwerydd chwythu adar blinedig oddi ar eu llwybr ac mae Sir Benfro’n lle perffaith iddynt gael seibiant. Mae hi werth chwilio’r ardaloedd arfordirol am adar hirgoes mudol ac weithiau fe gewch sioe ryfeddol o adar môr mudol wrth i chi edrych allan dros y môr.

Os byddwch yn ymweld yn y gaeaf gallwch wylio adar y gwlyptir, adar hirgoes ac adar dŵr eraill, fel y gwyach corniog, y trochydd mawr a’r crëyr bach, ar afonydd Cleddau, Nyfer a Theifi. Mae’r hebog tramor, y cudyll bach a’r boda tinwyn yn hela’n eang ar draws y sir ac mae heidiau mawr o gornchwiglod a chwtiaid aur yn aml yn ymgasglu yn yr awyr, wedi’u codi gan yr adar ysglyfaethus.

Mae gan Sir Benfro dirwedd mor gyfoethog ar gyfer adar preswyl ac adar mudol fel bod rhaid i chi fynd â’ch binocwlars i bob man!

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi