14 milltir
Trefdraeth i Landudoch
Llwybr anodd mewn ardal wyllt.
Mae hi’n dipyn o daith, a does dim ffordd hawdd o’i chwblhau heblaw am ei gwneud i gyd ar unwaith. Gallwch ddianc tua hanner ffordd ym Mae Ceibwr, ond bydd angen i chi gerdded oddi yno i Drewyddel er mwyn dal y bws.
Pen Cemaes yw un o’r mannau gorau yng Nghymru i weld lloi morloi yn yr Hydref.
Llwybr
-
O ganol Trefdraeth, ewch i’r gogledd tuag at yr aber
-
Cerddwch i fyny’r afon tuag at y bont. Croeswch, a cherddwch yn ôl tuag at y môr ar yr ochr draw
-
Croeswch y cwrs golff i’r maes parcio, ac oddi yno tua’r trwyn
-
Mae’r llwybr yn eithaf gwastad, ond yn codi’n araf
-
Mae ambell i nodwedd ddifyr yn y clogwyni yma, gan gynnwys bwâu naturiol a Phwll y Wrach. Mae plygiadau sylweddol yn y creigiau yn ardal Ceibwr hefyd
-
Traeth cul o gerrig mân sydd ym Mae Ceibwr. Mae’n lle gwych i gael seibiant bach hanner ffordd. Os ydych wedi cael digon, gallwch gerdded i Drewyddel i ddal bws Roced Poppit
-
Wrth i chi nesáu at Ben Cemaes, byddwch yn gweld sawl traeth nad oes modd eu cyrraedd. Mae dwsinau o forloi llwyd yn geni eu lloi ar y traethau yma rhwng mis Medi a mis Tachwedd
-
Wedi i chi fynd heibio i Ben Cemaes, fe welwch aber Afon Teifi o’ch blaen. Mae hwn yn lle ardderchog i wylio llamhidyddion a dolffiniaid
-
Dilynwch y ffordd darmac i draeth Poppit
-
Pan fydd y llanw’n isel, mae traeth Poppit yn cyrraedd clogwynni’r ochr draw bron
-
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd i Landudoch, tuag at y man cychwyn neu orffen swyddogol. Mae’r felin flawd, sy’n gweithio, ac adfeilion yr Abaty werth eu gweld.
-
Mae canolfan ymwelwyr y Cartws yn ychwanegiad newydd gwych rhwng y Felin a’r Abaty. Mae hwn yn lle ardderchog i ymlacio ar ôl eich taith – neu i baratoi cyn cychwyn!
-
Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lluniaeth: Tafarndai a chaffis yn Nhrefdraeth. Caffi ar draeth Poppit. Canolfan ymwelwyr gyda chaffi, ynghyd â siop sglodion a thafarndai, yn Llandudoch.
Atyniadau ar y daith: Pwll y Wrach ym mae Ceibwr, hen ogof fôr wedi dymchwel, Abaty Llandudoch (adfail), Canolfan Ymwelwyr Llandudoch.
Canolfan Groeso agosaf: Hwlffordd
Ffôn: 01437 775244
E-bost: haverfordwestlendinglibrary@pembrokeshire.gov.uk