Tre-fin i Ben-caer

12½ milltir

12½ milltir

Tre-fin i Ben-caer

Mae’r llwybr yn teimlo’n anghysbell iawn yn yr ardal hon, yn enwedig wrth i chi nesáu at Ben-caer.

Mae sawl traeth ardderchog ar y daith, gan gynnwys traeth Abercastell sy’n boblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr ac yn enwog am mai yma y glaniodd Alfred Johnson ar ddiwedd y daith unigol gyntaf erioed ar draws yr Iwerydd, o’r Gorllewin i’r Dwyrain, ar y 12fed o Awst, 1876!

Traethau bach anghysbell o gerrig mân yw traethau Abermawr ac Aberbach, ac maent yn fannau gwych i wylio morloi.

Oddi yno, mae’r clogwyni’n codi’n serth iawn, gan wneud y llwybr yn eithaf anodd. Wrth i chi gyrraedd Pwll Deri, cofiwch fynd at yr hostel ieuenctid er mwyn gweld y golygfeydd anhygoel sydd oddi yno.

Mae hi lawr allt wedyn, mwy neu lai yr holl ffordd i Ben-caer a’r goleudy.

 

Llwybr

  • Gadewch eich car ym Mhen-caer cyn dal Gwibiwr Strwmbwl i’r bae bychan sydd i’r gorllewin o Dre-fin

  • Dilynwch Lwybr yr Arfordir ar hyd y clogwyni uchel tuag at fae bach hynod Abercastell

  • Ychydig cyn i chi gyrraedd y traeth, ewch i mewn i’r tir am ychydig er mwyn gweld meini enfawr cromlech Carreg Samson. I’r gorllewin o Abercastell, mae’r arfordir yn arw ac yn ddiddorol. Cyn hir, byddwch yn cyrraedd traeth tawel Abermawr, traeth cysgodol sy’n dal yr haul. Yn y gwanwyn, ewch am dro trwy’r coed i weld clychau’r gog

  • Yn ôl y chwedl, heibio’r tro yn Aberbach y daliodd ffermwr lleol fôr-forwyn

  • Ychydig heibio i draeth Pwllcrochan (allwch chi ddim mynd iddo), mae’r llwybr yn dringo i’r grib uwchben Pwll Deri. Mae golygfeydd gwych oddi yma.

  • Cyn i chi gyrraedd yr hostel ieuenctid ym Mhwll Deri, gallwch gerdded drwy’r hen fferm sydd ar dde er mwyn dringo i ben y Garn Fawr. Mae’n serth, ond mae’r golygfeydd dros benrhyn Pen-caer werth eu gweld

  • Mae’r llwybr at y goleudy yn garegog gydag ambell i lechwedd, ond mynd am i lawr mae’r rhan hon ar y cyfan.

  • Mae cwm bach hyfryd yn llawn cyrs ychydig cyn diwedd y daith

  • Mae Pen-caer yn lle gwych i weld adar môr, yn enwedig yn y gwanwyn a’r hydref pan fydd adar mudol yn gorffwyso yn ystod eu taith.  Mae hefyd yn lle gwych i wylio llamhidyddion

  • Erbyn hyn byddwch yn falch iawn eich bod wedi gadael y car yn gynharach – does dim angen disgwyl am fws!

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Tŷ tafarn yn Nhre-fin. Caffi ym Melin Tregwynt ger Aberbach (gwyriad o 1 milltir)

Atyniadau ar y daith: Cromlech Carreg Samson yn Abercastell.

Canolfan Groeso agosaf: Tyddewi, yn oriel tirluniau Oriel y Parc

Ffôn 01437 720392

E-bost: orielyparc@pembrokeshirecoast.org.uk