Sant Gofan i Angle

17 milltir

17 milltir

Sant Gofan i Angle

Gall y rhan yma fod yn anodd gan fod sawl allt serth, ond mae amrywiaeth anhygoel o ran tirwedd.

Clogwyni tal a staciau gyda Phont Werdd Cymru a Staciau’r Heligog, sy’n gartref i filoedd o adar cecrus yn rhai o uchafbwyntiau’r daith.

Mae’r dirwedd yn newid wrth i chi gyrraedd y paradwys i syrffwyr, traeth tywodlyd a thwyni Freshwater West sydd wedi ymddangos mewn sawl ffilm Hollywood.

Yna, aiff y llwybr â chi hyd Penrhyn Angle tuag at ddyfroedd cysgodol dyfrffordd y Ddau Gleddau, lle cewch olygfeydd o gaer Napoleonaidd Ynys Thorn a chyfle i orffwys ar ddiwedd eich taith yn Nhŷ Tafarn yr Old Point House, taith gerdded fer o bentref Angle.

Llwybr

  • Gwnewch yn siwr fod y meysydd tanio ar agor cyn cychwyn am Sant Gofan. Ffoniwch 01646 662367 i glywed neges awtomatig

  • Ewch ar lwybr gwastad tua’r gorllewin heibio i hafnau trawiadol Stennis Ford a Huntsman’s Leap

  • Os ydych yn dda am sgrialu, gallwch fynd lawr i’r traeth bychan yn Flimston

  • Mae Staciau’r Heligog yn ferw o adar yn nythu ym mis Mai a Mehefin, ac mae Pont Werdd Cymru werth ei gweld hefyd. Bydd rhaid mynd oddi wrth y môr yma, gan nad oes modd croesi’r meysydd tanio sydd tua’r gorllewin.

  • Dim ond trwy fynd ar daith dywys y gellir croesi’r meysydd tanio sydd i’r gorllewin o Staciau’r Heligog, mae’r Parc Cenedlaethol a’r Ramblers yn trefnu teithiau o’r fath yn ystod yr haf

  • Gallwch osgoi rhan nesaf, mewndirol, y daith i Freshwater West, (ac mae caniatâd i chi wneud hynny!) trwy ddal bws cerddwyr Gwibfws yr Arfordir. Bydd yn arbed 5½ milltir i chi, ond cofiwch edrych ar amserlen gyfredol o flaen llaw er mwyn gwirio’r amseroedd.

  • Cerddwch ar draws y traeth hyfryd yn Freshwater West, cyn mynd trwy’r twyni a thros y clogwyni

  • Mae’r rhan nesaf yn anodd, a does dim ffordd o ddianc hyd nes y byddwch yn cyrraedd Bae Gorllewin Angle (toiledau a chaffi)

  • Mae’r llwybr yn mynd heibio’r hen gaer Napoleonaidd ar Ynys Thorn, ac yna’n gwyro i’r dwyrain tuag at ddyfrffordd cysgodol y Dau Gleddau

  • Oddi yma mae’r llwybr yn hawdd, er bod ambell i gamfa i’w chroesi wrth fynd o gae i gae

  • Yn fuan iawn byddwch yn cyrraedd yr Old Point House Inn uwchben Bae Gorllewin Angle. Bydd angen ewyllys gref iawn i ymatal yma!

  • Wedi taith fer hyd y llwybr byddwch yn cyrraedd pentref Angle

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Caffi a thŷ tafarn yn Bosherston. Caffi tymhorol yn Freshwater West. Dau dŷ tafarn yn Angle a chaffi uwchben y traeth ym mae Gorllewin Angle.

 Atyniadau ar y daith: Capel Sant Gofan, Staciau Heligog, a Phont Werdd Cymru. Tŵr caerog a Chaer Chapel Bay ym mhentref Angle.

 Canolfan Groeso Agosaf: Dinbych-y-pysgod, Upper Park Road (ger y maes parcio aml-lawr a’r orsaf fws)

Ffôn: 01437 775603

E-bost: tenby.tic@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi