Pwllgwaelod i Drefdraeth

7 milltir

Pwllgwaelod i Drefdraeth

7 milltir

Taith fer y gallwch ei hymestyn drwy ddringo Carn Ingli, uwchlaw Trefdraeth, er mwyn gweld un o olygfeydd gorau’r DU.

Mae’r golygfeydd anhygoel o’r copa’n ei gwneud yn werth chweil dringo i Ben-y-fan ar Ynys Dinas, y pwynt uchaf ar Lwybr yr Arfordir.

Yna, wrth fynd i lawr i Gwm-yr-Eglwys, fe welwch olion capel a ddinistriwyd mewn storm egr yn 1859.

Mae traeth bach caregog Aberfforest yng nghanol clogwyni serth, felly mae’n lle da i nofio

Llwybr

  • Dilynwch y ffordd i fyny’r allt am ychydig

  • Daliwch i ddringo nes cyrraedd copa Pen-y-fan

  • Mae’r llwybr yn fforchio wrth i chi ddod yn ôl i lawr. Arhoswch ar y llwybr uchaf, gan mai hwnnw yw’r gorau

  • Y rhan goediog sy’n arwain i mewn i Gwm-yr-Eglwys yw un o’r rhannau harddaf o holl Lwybr yr Arfordir

  • Mae modd i chi osgoi’r bryn – gallwch ddilyn y llwybr sy’n addas i gadeiriau olwyn a choetsys ar lawr y dyffryn, y tu ôl i’r dafarn

  • O Gwm-yr-Eglwys, dilynwch y ffordd nes cyrraedd tŷ ar y chwith. Mae Llwybr yr Arfordir y tu ôl iddo

  • Wrth nesáu at Trefdraeth byddwch yn mynd heibio i ddau draeth bach cudd. Mae wyneb da ar y llwybr wedi i chi fynd heibio’r cwt cychod

  • Ewch heibio ychydig o dai, ac os fydd y llanw allan ewch i lawr i’r traeth a cherdded ar hyd y creigiau. Bydd angen dilyn llwybr arall os bydd y llanw’n uchel

  • Mae sarn anarferol o lechi yn eich arwain i’r Parrog

  • Dilynwch yr aber hyd nes y byddwch yn cyrraedd y bont

  • Trowch i’r dde, ac ychydig ymhellach i fyny’r ffordd mae cromlech Carreg Coetan

  • Ewch yn ôl yr un ffordd ar hyd glannau’r aber

  • Ewch i fyny’r ail ffordd ar y chwith i ganol y pentref

  • Os ydych am fynd i Garn Ingli, ewch i fyny Market Steet tuag at olion y castell

  • Ewch i fyny Mill Lane sydd i’r dde o’r castell

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Tŷ Tafarn ym Mhwllgwaelod. Tafarndai a chaffis yn Nhrefdraeth.

Atyniadau ar y daith: Cromlech Carreg Coetan

Canolfan Groeso agosaf: Hwlffordd

Ffôn: 01437 775244

E-bost: haverfordwestlendinglibrary@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi