11 milltir
Porth Mawr i Dre-fin
Llwybr gwyllt a garw dros rai o’r creigiau hynaf ym Mhrydain, sy’n dyddio o’r cyfnod cyn-Gambriaidd.
Mae olion hanesyddol yn britho’r rhan hon o Lwybr yr Arfordir. Ar gopa Carn Llidi, uwchben traeth Porth Mawr, mae adfeilion gorsaf radar o’r Ail Ryfel Byd ac ar Bentir Dewi islaw, mae cromlech neolithig Coetan Arthur.
Yn Abereiddi fe welwch olion chwarel lechi o’r enw’r Shinc, sy’n cael ei liw o adlewyrchiad glas y llechi. Mae’n lle poblogaidd gydag arfordirwyr, ac maent yn aml i’w gweld yn neidio oddi ar y clogwyni ar ochr ogleddol y pwll.
Wrth nesáu at bentref bach Porthgain, byddwch yn sicr o sylwi ar yr hopranau enfawr o frics sydd ar yr harbwr. Adeiladwyd y rhain ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg, ac maent bellach yn Henebion Cofrestredig.
Llwybr
-
O’r caffi ym mae Porth Mawr, ewch i’r gogledd tuag at Benmaen Dewi
-
Os yw amser yn caniatáu, trowch i’r dde er mwyn dringo Carn Llidi, mae golygfeydd gwych i’w cael oddi yno
-
Ewch yn ôl i lawr yr un ffordd, ac archwiliwch adfeilion caer o’r Oes Haearn sydd ar y penrhyn, a chromlech Coetan Arthur
-
Ewch ar hyd y clogwynni tua’r dwyrain nes cyrraedd y ffordd sy’n arwain tuag at Fae Abereiddi
-
Ar yr ochr draw ceir olion chwarel lechi a rhes o fythynnod chwarelwyr (toiledau yma)
-
Y Shinc yw’r enw ar y chwarel gron hon sy’n boblogaidd iawn gydag arfordirwyr a chaiacwyr ers iddi gael ei boddi gan y môr
-
Heibio’r chwarel, a daw golygfa drawiadol o’r Traeth Llyfn i’r golwg yn y pellter
-
Mae cyfres o risiau dur yn arwain i lawr at y traeth os oes arnoch awydd nofio
-
Wrth i chi nesáu at Borthgain, byddwch yn dechrau sylwi ar fwy o olion gwaith cloddio – chwareli gwenithfaen y tro yma. Arferai’r cerrig gael eu halio dros ymyl y clogwyn, eu malu’n ddarnau a’u rhoi yn yr hopranau enfawr er mwyn eu cludo i’r harbwr
-
Mae ymweld â’r Shed neu’r Sloop Inn fwy neu lai’n orfodol
-
Mae gweddill y daith i Dre-fin yn ddigon syml
-
Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lluniaeth: Caffi ar draeth Porth Mawr. Tŷ tafarn a chaffi ym Mhorthgain. Tŷ tafarn yn Nhre-fin.
Atyniadau ar y daith: Cromlech Coetan Arthur ar Benmaen Dewi. Y Shinc yn Abereiddi. Orielau ym Mhorthgain.
Canolfan Groeso agosaf: Tyddewi, yn oriel tirluniau Oriel y Parc
Ffôn 01437 720392,
E-bost: orielyparc@pembrokeshirecoast.org.uk