Penfro i Aberdaugleddau

14 milltir

Penfro i Aberdaugleddau

14 milltir

Mae llawer o gerddwyr yn gwneud y camgymeriad o osgoi’r rhan yma o’r llwybr, gan gredu ei fod yn rhy drefol.

Er ei bod yn wahanol iawn i ardaloedd mwy gwledig Llwybr yr Arfordir, mae digon i’ch difyrru chi yn y rhan yma – a does dim elltydd serth ychwaith!

Yn Noc Penfro byddwch yn mynd heibio i hen ddoc y llynges yn ogystal â Thŵr Martello a adeiladwyd i’w amddiffyn. Yna, ymlaen i Bont Cleddau gyda’i golygfeydd anhygoel o’r aber, tuag at Burton a Lawrenni i’r dwyrain ac Aberdaugleddau i’r gorllewin.

Yna, yn ôl ar lan y dŵr, aiff y llwybr ymlaen trwy Neyland a Llanstadwell cyn cyrraedd Aberdaugleddau a’i marina.

Llwybr

  • Croeswch y bont islaw Castell Penfro, trowch i’r chwith ar unwaith, ac yna i’r dde ger y tai newydd

  • Mae’r llwybr yn dilyn glannau gogleddol Afon Penfro, nes iddi gyrraedd ystâd o dai a ffordd darmac

  • Ewch i fyny’r bryn ac i lawr yr ochr draw i Ddoc Penfro. Ceisiwch gadw llwybr mor syth ag y gallwch chi, hyd nes  byddwch chi’n cyrraedd y wal sydd o gwmpas hen ddociau’r llynges. Cadwch y wal ar y chwith i chi

  • O’ch blaen fe welwch chi Dŵr Martello a adeiladwyd er mwyn amddiffyn y dociau

  • Ar y gylchfan sydd ger y Travelodge, ewch i fyny’r bryn, cerddwch mewn llwybr mor syth ag y gallwch chi, hyd nes i chi gyrraedd y bont dros Afon Cleddau

  • Arferai’r HMS Warrior gael ei hangori yma, o dan y llethr coediog. Defnyddiwyd hi fel doc ar gyfer depo tanwydd y llynges a arferai fod yma

  • Wedi i chi groesi’r bont, ewch hyd y ffordd fawr a chroesi’r bont nesaf

  • Ewch i lawr y bryn tuag at Neyland, gan ddilyn y ffordd wrth iddi droi am y dde hyd nes y bydd yn dechrau mynd oddi wrth yr afon

  • Trowch i’r dde i lawr llethr serth, gan ymuno â’r pill o dan y bont

  • Dilynwch yr hen reilffordd, heibio i’r marina a chyrion Neyland, hyd nes bydd y ffordd yn dechrau mynd i mewn i’r tir

  • Trowch i’r chwith trwy Llanstadwell, hyd nes i chi gyrraedd y Ferry Inn

  • Trowch i’r chwith i fyny’r llwybr serth y tu ôl i’r dafarn. Bydd hwn yn eich arwain o gwmpas y burfa cyn ymuno â ffordd

  • Trowch i’r chwith, a dilyn y ffordd i lawr tuag at Castle Pill

  • Croeswch y pill, ac yna ewch fyny’r allt ryw ychydig cyn troi i’r chwith. Dilynwch y llwybr hwn hyd nes y byddwch yn cyrraedd y Rath, promenâd hyfryd gyda golygfeydd gwych o’r Aber

  • Mae Aberdaugleddau a’r marina i fyny’r allt oddi yma

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Digonedd o ddewis ym Mhenfro, Doc Penfro, ac Aberdaugleddau. Caffi ym marina Neyland, a thŷ tafarn yn Llanstadwell.

Atyniadau ar y daith: Castell Penfro, Tŵr Martello a’r Sunderland Trust yn Noc Penfro. Amgueddfa a marina Aberdaugleddau.

Canolfan Groeso agosaf: Dinbych-y-pysgod, Upper Park Road (Ger y maes parcio aml-lawr a’r orsaf fws)

Ffôn: 01437 775603

E-bost: tenby.tic@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi