Pen-caer i Bwllgwaelod

13 milltir

13 milltir

Pen-caer i Bwllgwaelod

Gellir disgrifio’r rhan yma o’r llwybr fel Llwybr y Glaniad Olaf, gan mai yma y bu’r ymosodiad diwethaf ar dir mawr Prydain.

Ar drwyn Carreg Wastad, fe welwch garreg sy’n coffáu glaniad byddin Ffrainc ar y 22ain o Chwefror 1797. Yn ystod yr ymosodiad aflwyddiannus, llwyddodd merch leol o’r enw Jemima Niclas i ddal 12 milwr Ffrengig a’u carcharu yn Eglwys y Santes Fair, gyda chymorth dim byd ond picwarch. Cafodd y stori ei darlunio yn nhapestri’r Glaniad Olaf, tapestri 30 metr o hyd yn null tapestri Bayeux, sydd i’w weld yn neuadd y dref, Abergwaun.

Gall y daith hon fod yn eithaf anodd gan fod y llwybr yn arw ac yn fryniog, ond mae digonedd o fannau i orffwys ar y ffordd. Mae’n werth chweil mynd i weld y tapestri yn Abergwaun.

Llwybr

  • Gadewch eich car ym Mhwllgwaelod cyn dal Gwibiwr Strwmbwl i oleudy Pen-caer

  • Cerddwch tua’r dwyrain dros glogwyni geirwon a bryniog. Mae un bae, Aber Felin, yn arbennig o boblogaidd gyda morloi llwydion ac ar ddiwrnod braf gallwch weld hyd at ddwsin ohonynt yn gorweddian yno

  • Ar ôl rhyw 2 filltir, byddwch yn cyrraedd carreg goffa Trwyn Carreg Wastad. Mae’r garreg yn coffáu’r ymosodiad diwethaf ar dir mawr Prydain gan fintai o gonscriptiaid Ffrengig yn 1797. Byddai wedi bod yn anodd dod o hyd i le gwaeth i lanio llynges!

  • Wedi 2 filltir arall, byddwch yn cyrraedd pentref Wdig sydd uwchben Harbwr Abergwaun. Dilynwch y ffordd i ganol y pentref

  • Ewch ar hyd y Parrog ac i fyny’r grisiau ar yr ochr draw

  • Mae Llwybr yr Arfordir yn dilyn ymyl y clogwyni gan osgoi canol tref Abergwaun, ond dylech dreulio rhywfaint o amser yn crwydro strydoedd y dref. Ewch i mewn i’r tir wedi i chi fynd heibio’r canonau

  • Yn Neuadd y Dref, sydd wedi cael ei hadnewyddu’n ddiweddar, mae oriel sy’n arddangos tapestri’r Glaniad Olaf. Mae’n rhad ac am ddim ac yn werth ei weld

  • Wedi i chi grwydro strydoedd Abergwaun, ewch i lawr y bryn tuag at Gwm Abergwaun

  • Yn yr harbwr bychan yma y gwnaed fy film o ‘Dan y Wenallt’ gan Dylan Thomas yn 1971

  • Ewch i fyny’r allt ar hyd y briffordd, hyd nes y byddwch yn cyrraedd y maes parcio

  • Ychydig oddi yma mae Caer Abergwaun a’r canonau a daniwyd tuag at y llongau Ffrengig gan eu gorfodi i lanio yng Ngharreg Wastad

  • Ar ôl ychydig filltiroedd byddwch yn cyrraedd maes carafanau, cerddwch drwy’r canol

  • Cyn i chi gyrraedd Pwllgwaelod mae traeth bach cudd, hyfryd gyda llwybrau serth i lawr ato ac i fyny’r ochr arall

  • Mae Pwllgwaelod yn draeth cysgodol gyda llethr graddol yn y môr ac mae’r hen dŷ tafarn gerllaw yn lle gwych i ddathlu pen y daith

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Tafarndai a chaffis yn Wdig ac Abergwaun. Hufen iâ i’w gael ym Mharc Carafanau Fishguard Bay. Tŷ tafarn ym Mhwllgwaelod.

Atyniadau ar y daith: Siopau difyr yn Abergwaun, Tapestri Abergwaun yn Neuadd y Dref, Caer Abergwaun.

Canolfan Groeso agosaf: Tyddewi, yn oriel tirluniau Oriel y Parc

Ffôn 01437 720392

E-bost: orielyparc@pembrokeshirecoast.org.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi