Nolton Haven i Gaerfai
12 milltir
Dyma un o rannau mwyaf poblogaidd Llwybr yr Arfordir, a does dim syndod am hynny.
Mae cymaint o olygfeydd i’w gweld yn y rhan yma. Efallai mai’r gorau honynt yw’r olygfa wrth i chi nesáu at draeth Niwgwl, pan fydd dwy filltir o dywod euraid (os nad yw hi’n llanw uchel!) yn ymestyn o’ch blaen wrth i chi fynd heibio i Rickets Head.
O Niwgwl, mae’n dipyn o daith, gyda’r llwybr yn esgyn ac yn disgyn yn serth sawl gwaith cyn cyrraedd Y Gribin yn Solfach. Yno mae golygfeydd gwych o’r harbwr a’r arfordir hyd at Dyddewi. Mae Solfach yn lle perffaith i gael seibiant bach a mwynhau’r golygfeydd.
Llwybr
-
Mae’r allt allan o Nolton Haven yn ddigon hawdd ond peidiwch da chi â thybio mai fel yma y bydd hi am weddill y daith
-
Ychydig heibio i ‘dwmpath’ neilltuol Rickets Head, mae’r llwybr yn disgyn i mewn i bant lle welwch chi hen simdde – unig olion pwll glo a arferai fod yma
-
Dringwch allan o’r pant yr ochr arall, ac i lawr y llethr graddol i draeth Niwgwl
-
Os yw’r llanw allan, gallwch gerdded yr holl ffordd i Gwn Mawr ar hyd y traeth, ond gall fod yn anodd croesi’r afon sydd wrth y pentref, hyd yn oed yn y man ble mae hi’n cwrdd â’r môr
-
Y ffordd orau o groesi yw dringo’r llethr o gerrig mân sydd ochr draw’r afon, gyferbyn â’r caffi. Os fyddwch yn mynd y ffordd yma, gofalwch na chewch chi eich dal gan y llanw
-
Mae’r llwybr arferol yn mynd i fyny allt serth ac yn dod i lawr hyd yn oed yn fwy serth yr ochr draw
-
Wedi sawl bryn a phant arall, daw’r llwybr â chi i draeth o gerrig man ychydig cyn pentref Solfach. Mae’r llwybr oddi yma i fyny at Y Gribin yn serth ac yn anodd, ond mae’r olygfa’n arbennig wedi i chi gyrraedd y top
-
Dilynwch y grib, heibio’r creigiau ac ar hyd y llwybr coediog ar y chwith
-
Cerddwch hyd wal yr harbwr, i’r pen draw; mae grisiau yno sy’n arwain yn ôl i Lwybr yr Arfordir. Pan fydd y llwybr yn fforchio, ewch i’r dde i fyny’r ffordd fwyaf serth. Trowch i’r chwith, a heibio’r tŷ sydd â thŵr
-
Cyn hir byddwch yn cyrraedd gweddillion rhagfur hen gaer pentir, ychydig cyn i’r llwybr ddechrau am i lawr tuag at Borth y Rhaw
-
Edrychwch dros ymyl y clogwyn am olion tri cwch tynnu a ddrylliwyd yma yn 1986
-
Caerbwdi, traeth bychan o gerrig mân, sydd nesaf. Y ddringfa nesaf i ben y clogwyn yw’r ddringfa olaf am y dydd, oni bai eich bod am fynd i draeth Caerfai am ychydig o seibiant
-
Byddwch yn gwybod eich bod wedi cyrraedd Caerfai gan fod sawl maes gwersylla a maes parcio yno. Mae clogwyni serth o gwmpas y traeth, sy’n wynebu’r de, a fel arfer mae’n le da i ddal yr haul
-
Ewch ar y ffordd, i mewn i’r tir, i gyrraedd Tyddewi ac Oriel y Parc
-
Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lluniaeth: Tŷ Tafarn yn Nolton Haven. Caffi bob pen i draeth Niwgwl, yn ogystal â Thŷ Tafarn. Digonedd o ddewis yn Solfach.
Atyniadau ar y daith: Siopau ac orielau difyr yn Solfach.
Canolfan Groeso agosaf: Tyddewi, Oriel y Parc – Oriel tirluniau
Ffôn: 01437 720392