14½ milltir
Lydstep i Sant Gofan
Llwybr amrywiol a hardd iawn sy’n cynnwys rhai o draethau gorau’r Sir ac ambell i safle hanesyddol.
Mae cromlech hynafol Kings Quoit i’w gweld ar y llwybr ychydig cyn i chi gyrraedd Maenorbŷr, a chastell Maenorbŷr hefyd wrth gwrs. Wrth ddilyn llwybr yr arfordir ymhellach, byddwch yn cyrraedd ystâd Ystangbwll a adeiladwyd gan deulu Cawdor ond sydd bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â chapel hudolus Sant Gofan, encil meudwy sy’n glynu wrth y clogwyni ym mhen draw’r rhan hon o’r daith.
Mae traethau Barafundle a De Aberllydan yn llecynnau perffaith i gael cinio neu i wlychu’ch traed yn y dŵr.
Does dim elltydd serth iawn yn y rhan yma o’r llwybr, ond mae’n ddigon caled serch hynny.
Llwybr
-
Dechreuwch o faes parcio Lydstep Head sydd uwchben maes carafanau Lydstep Haven
-
Wedi hanner milltir o gerdded, ewch i lawr y grisiau ar y chwith, i lawr dyffryn sych. Mae’n arwain at draeth llanw isel ardderchog gydag ogofâu
-
Wedi dychwelyd i’r llwybr, ewch yn eich blaen heibio’r hostel ieuenctid a Skrinkle Haven – traeth nad oes modd ei gyrraedd
-
Mae’r llwybr yn gwyro er mwyn osgoi gwersyll y fyddin ym Maenorbŷr, ond mae arwyddion amlwg i’ch arwain
-
Ewch ymlaen tua thraeth Maenorbŷr, heibio siambr gladdu King’s Quoit
-
Mae’r llwybr eithaf anodd hwn yn esgyn a disgyn cyn cyrraedd bae diarffordd Swanlake, ac yna ymlaen i Freshwater East (caffi, bwyty, a thoiledau)
-
Mae’n bosibl sgrialu i lawr i ben dwyreiniol traeth Freshwater East os yw’r llanw allan
-
Ewch tuag at y llithrfa, ar hyd y ffordd am ychydig o droedfeddi ac yna ar lwybr coediog yn ôl i ben y clogwyn
-
Mae llwybr cymharol wastad yn mynd tuag at Gei Ystangbwll (caffi a thoiledau)
-
Dringwch i fyny ac i lawr eto cyn cyrraedd traeth anhygoel Barafundle
-
Mae’r llwybr rhwydd yma i Bentir Ystangbwll yn parhau ar y gwastad yr holl ffordd i Sant Gofan, oni bai am un rhan ble mae’n mynd i lawr i draeth de Aberllydan
-
Os y gallwch chi, dringwch dros y creigiau a cherddwch ar y traeth, neu ewch am dro at y llynnoedd cyfagos yn Bosherston os oes amser
-
Dringwch y grisiau sydd ar ochr bellaf y traeth (toiledau a fan hufen iâ)
-
I’r gorllewin, mae traeth llanw isel hyfryd Trevallen
-
Os yw’r meysydd tanio ar gau, ni allwch fynd ymhellach. Ffoniwch 01646 662367 am wybodaeth
-
Mae’n daith hamddenol i Drwyn Sant Gofan oddi yma, a dyw’r capel fawr pellach
-
Trowch oddi wrth y môr yn fan hyn er mwyn cyrraedd pentref Bosherston
-
Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lluniaeth: Caffi a bwyty ger y traeth yn Freshwater East. Tŷ tafarn yn Ystangbwll a chaffi yng Nghei Ystangbwll. Tŷ tafarn a chaffi yn Bosherston.
Atyniadau ar y daith: Castell Maenorbŷr, Llynnoedd Bosherston, Capel Sant Gofan.
Canolfan Croeso agosaf: Dinbych-y-pysgod, Upper Park Road (Ger y maes parcio aml lawr a’r orsaf fysiau)
Ffôn: 01437 775603
E-bost: tenby.tic@pembrokeshire.gov.uk