Dale i Martin's Haven

10½ milltir

10½ milltir

Dale i Martin's Haven

Pentiroedd gwyllt digysgod ynghyd â rhai o draethau gorau Sir Benfro.

Mae’r rhan yma o’r llwybr yn eich arwain heibio i bentir St. Ann lle mae’r Cleddau’n cwrdd â’r môr mawr. Gerllaw, mae Bae Watwick a Mill Bay, ble glaniodd Harri VII yn 1485 ar ei ffordd i frwydr Bosworth.

Wedi i chi fynd heibio i hen faes awyr Dale a Thrwyn Hooper cewch olygfa arbennig o draeth Marloes – a gorau oll os bydd y llanw allan ar y pryd. Cafodd y traeth ei ddefnyddio mewn golygfeydd yn y ffilm Hollywood mawr, Snow White and the Huntsman yn 2012.

Mae’r rhan hon o’r llwybr yn dod i ben ar bwynt mwyaf gorllewinol penrhyn Marloes, uwchlaw Swnt Jack ac Ynys Sgomer, gyda Bae Sain Ffraid yn ymestyn o’ch blaen. Mae’r rhan hon o’r llwybr yn weddol anodd.

Llwybr

  • O bentref Dale, ewch heibio’r pentir ar y ffordd darmac tuag at ganolfan astudiaethau maes Dale Fort

  • Oddi yma, dilynwch y llwybr troed sy’n ymlwybro o gwmpas y baeau a’r traethau tuag at oleudy pentir St Ann

  • Gellir cyrraedd Bae Watwick a Mill Bay oddi yma. Yn Mill Bay glaniodd Harri VII  gyda’i fyddin yn 1485, ar y ffordd i frwydr Bosworth, ac i fod yn frenin cyntaf oes y Tuduriaid

  • Mae olion difyr llong danfor wedi’i dryllio i’w gweld ar draeth Mill Bay hefyd. Daeth yn rhydd wrth gael ei llusgo i gael ei dinistrio ac felly nid oedd unrhyw griw arni

  • Pan fyddwch yn cyrraedd y ffordd darmac ger mynedfa’r goleudy newydd, chwiliwch am hen giât ar yr ochr draw. Bydd yn eich arwain ar lwybr byr i Cobblers Hole, i weld plygiadau mawr yn y graig

  • Gan fynd tua’r gogledd, byddwch yn mynd heibio i draeth Gorllewin Dale a’r Hookses, bwthyn anghysbell sy’n cuddio mewn pant

  • Mae lleiniau glanio’r hen faes awyr yn dal yn amlwg, er nad ydynt wedi’u defnyddio ers y rhyfel. Ceir sawl maes awyr tebyg ar glogwyni Sir Benfro, er bod eu gwaith o amddiffyn confois wedi hen ddod i ben

  • Wrth fynd heibio’r tro, cewch olygfa o draeth godidog Marloes

  • Ewch i lawr y grisiau cyntaf i’r traeth. Peidiwch â gwneud hyn os yw’r llanw ar ei uchaf, gan na fyddwch yn gallu cyrraedd rhan nesaf y llwybr

  • I’r rhai sy’n dda am sgrialu, mae llwybr garw yn ôl i’r llwybr ym mhen pellaf y traeth, ond dylai’r rhan fwyaf o gerddwyr ddychwelyd i Lwybr yr Arfordir lle mae’r nant yn cyrraedd y traeth

  • Heibio i Ynys Gateholm mae Traeth Albion. Pan fydd y llanw allan, gallwch weld propsiafft llong a ddrylliwyd yma. Dyma’r Albion, a dyma’r unig ran ohoni sydd ar ôl. Roedd yn hwylio trwy Swnt Jack, pan ddrylliwyd hi yn erbyn y creigiau wrth iddi geisio osgoi cwch rwyfo. Daeth i’r lan yma ac achubwyd pawb, er i’r llong ddarnio’n fuan wedyn.

  • Mae’r llwybr yn llydan ac yn wastad o’r fan hyn at drwyn y penrhyn, pan ddaw ehangder Bae Sain Ffraid i’r golwg o’ch blaen. Cadwch lygad barcud am loi morloi ar y traeth islaw yn ystod mis Hydref a Thachwedd

  • Yr ochr draw i ddyfroedd tymhestlog Swnt Jack mae ynys Sgomer. Mae dros hanner miliwn o adar môr yn nythu yma yn ystod mis Mai a Mehefin, gan gynnwys palod, gwylanod coesddu ac adar drycin Manaw

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Caffi a thŷ tafarn yn Dale. Caffi yn yr hen hostel ieuenctid, Runwayskiln, uwchben traeth Marloes.

Atyniadau ar y daith: Gwarchodfa Natur Ynys Sgomer, tripiau cychod, a Lockley Lodge, canolfan groeso’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn Martin’s Haven.

Canolfan Groeso agosaf: Hwlffordd

Ffôn: 01437 775244

E-bost: haverfordwestlendinglibrary@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi