9½ milltir
Caerfai i Borth Mawr
Wrth i chi gerdded y rhan arw hon o Lwybr yr Arfordir rydych yn siwr o weld rhywbeth difyr, boed yn ddringwyr dewr ar y clogwyni serth neu’n forloi’n torheulo islaw.
O’r traeth yng Nghaerfai, mae’r llwybr yn dilyn ymyl Bae Santes Non a heibio’r capel sydd wedi’i gysegru i Non, mam Dewi Sant.
Wrth fynd tuag at Borth Clais, cadwch lygad am anturiaethwyr, boed yn gaiacwyr, yn ddringwyr neu’n arfordirwyr, yn taflu’i hunain oddi ar y clogwyni i’r môr.
Wrth i chi gyrraedd y trwyn sydd y tu draw i draeth Porthlysgi, byddwch ar y rhan mwyaf gorllewinol o dir mawr Cymru, a daw Ynys Dewi i’r golwg o’ch blaen.
Oddi yma, mae’r llwybr i St Justinians yn dilyn Swnt Dewi, a heibio i greigiau a elwir yn lleol yn ‘the Bitches’. Dyma un o’r darnau o ddŵr sy’n llifo gyflymaf yn y DU, a fan hyn gallwch weld caiacwyr profiadol yn ‘chwarae’ yn y tonnau os bydd yr amodau’n ffafriol.
Llwybr
-
Dechreuwch yn y maes parcio ger y Ganolfan Groeso. Ewch tua’r de ar hyd ffordd gul i Fae Caerfai a throwch i’r dde.
-
Y man cyntaf o nod i chi ei gyrraedd yw encil a chapel bychan Santes Non
-
Mae adfeilion capel hŷn sydd gerllaw hefyd wedi’u cysegru i’r Santes Non, mam Dewi Sant
-
Nes ymlaen, mae’r llwybr yn arwain i lawr at Borth Clais, ac yna at draeth ehangach Porthlysgi, cyn cyrraedd y trwyn.
-
Dyma ran fwyaf gorllewinol tir mawr Cymru, ac mae’n le da i weld morloi llwyd
-
O’ch blaen, mae Swnt Dewi ac Ynys Ddewi, sy’n warchodfa RSPB bwysig
-
Mae rhes o greigiau geirwon ‘The Bitches’ yn croesi’r swnt, sy’n hwyl i gaiacwyr a gyrwyr cychod modur fel ei gilydd
-
Mae’r cychod sy’n croesi i Ynys Dewi’n gadael o orsaf bad achub St Justinians yn y pellter
-
Heibio’r tro, mae traeth bychan Porthselau, ac ehangder gwych Porth Mawr
-
Gall fod yn bosibl i chi gyrraedd Porth Mawr o Borthselau os yw’r llanw’n isel, ond os nad, mae’n ddigon hawdd cyrraedd ar hyd y clogwyn
-
Os ydych yn bwriadu gorffen eich taith yn Nhyddewi, trowch oddi wrth y môr ger y caffi, a cherddwch i fyny’r allt tuag at groesffordd ble mae pum ffordd yn cwrdd
-
Peidiwch â chymryd y troad sydyn i’r chwith, ond yn hytrach yr un nesaf. Bydd yn eich arwain yn syth at yr Eglwys Gadeiriol
-
Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dynodi’r llwybr
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lluniaeth: Caffi ym maes parcio Porth Clais (tymhorol), caffi Whitesands Bay. Digonedd o ddewis yn Nhyddewi.
Atyniadau ar y daith: Tripiau cwch o St. Justinians, Palas Esgobion Tyddewi, Oriel y Parc a chanolfan groeso’r Parc Cenedlaethol, ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Canolfan Groeso agosaf: Tyddewi, yn Oriel y Parc.
Ffôn 01437 720392