11 milltir
Angle i Benfro
Mae’r rhan yma’n hawdd ac yn wastad ar y cyfan.
O Angle, mae’r llwybr yn mynd heibio bae Dwyrain Angle, dros aber sawl afon, a heibio i faeau llonydd sy’n hafan i fywyd gwyllt – felly cofiwch eich binocwlars a’ch llyfr adar!
Wedyn, aiff y llwybr drwy ran ddiwydiannol Sir Benfro, heibio’r purfeydd olew, cyn ymlwybro hyd glan afon Penfro i mewn i’r dref.
Ac mae’r rhan hon yn dod i ben yng Nghastell Penfro, castell mawreddog uwchlaw’r dref. Yma ganwyd Harri VII, a theulu brenhinol y Tuduriaid.
Llwybr
-
O bentref Angle, ewch trwy’r maes chwarae plant ac edrychwch ar y Tŷ Tŵr, tŵr caerog canol oesol
-
Trowch i’r dde, dros y bont, a dychwelyd i’r ffordd
-
Trowch i’r chwith i lawr ffordd goediog hyfryd sy’n dilyn ymyl Bae Dwyrain Angle
-
Pan ddaw’r ffordd i ben ewch ymlaen ar y llwybr trwy’r coed
-
Wrth gerdded heibio’r bae, cadwch olwg am ylfinirod ac adar hirgoes eraill
-
Ochr draw i’r bae, byddwch yn cyrraedd ffordd darmac arall sy’n arwain tuag at burfa Chevron. Mae hwn yn safle diddorol dros ben, er nad yw’n gweddu’r cefn gwlad sydd o’i amgylch
-
Byddwch yn mynd heibio Caer Popton, a adeiladwyd yn oes Napoleon i amddiffyn porthladd y Llynges Frenhinol yn Noc Penfro
-
Yna, bydd y llwybr yn mynd i mewn i’r tir ryw ychydig a heibio Eglwys Pwllcrochan. Edrychwch ar y llwybrau pren a’r byrddau gwybodaeth yma
-
Nawr mae’r llwybr yn ymdroelli hyd ymyl yr aber, weithiau ar y ffordd, dro arall oddi arni, nes cyrraedd Penfro
-
Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dynodi’r llwybr
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lluniaeth: Y caffi ym mae Gorllewin Angle yw’r lle olaf i gael lluniaeth cyn cyrraedd Penfro, sydd â digonedd o ddewis.
Atyniadau ar y daith: Tŷ’r Tŵr a Chaer Chapel Bay yn Angle, a Chastell Penfro.
Canolfan Groeso agosaf: Dinbych-y-pysgod, Upper Park Road (Ger y maes parcio aml-lawr a’r orsaf fysiau)
Ffôn: 01437 775603
E-bost: tenby.tic@pembrokeshire.gov.uk