Amroth i Lydstep

11½ milltir

11½ milltir

Amroth i Lydstep

Llwybr sydd o bosibl ychydig yn fwy anodd na’r disgwyl, ond sydd â rhywbeth i gynnal eich diddordeb trwy gydol y daith.

Pan fydd y llanw’n isel iawn gallwch gerdded yr holl ffordd o Amroth i Saundersfoot ar hyd y traeth, a gweld ambell i nodwedd ddaearegol ddifyr ar y ffordd, gan gynnwys cystradau glo.

Cofiwch fwynhau’r coetir sydd o gwmpas Trwyn Giltar, rhwng Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod, gan nad oes llawer o goed i’w gweld ar weddill llwybr yr arfordir.

Oddi ar y rhan yma o’r llwybr mae golygfeydd gwych o Ynys Bŷr a draw at Benrhyn Gŵyr a Dyfnaint ar ddiwrnod clir.

Llwybr

  • Dringwch allt gymedrol o Amroth tuag at Wisemans’s Bridge (toiledau a lluniaeth)

  • Dilynwch yr hen dramffordd wastad a’r twneli i mewn i Saundersfoot

  • Ewch heibio’r harbwr a lawr at draeth Glen ac yna i fyny allt hawdd

  • Peidiwch â chael eich temtio i aros ar y traeth yr holl ffordd i Monkstone gan nad yw’n hawdd dychwelyd i Lwybr yr Arfordir oddi yno

  • Cerddwch ar hyd llwybr coediog a bryniog yr holl ffordd oddi yma i Ddinbych-y-pysgod

  • Mae llechwedd eithaf serth i lawr i Lodge Valley, a llechwedd cymedrol i fyny’r ochr draw

  • Mae dringfa gweddol serth allan o’r dyffryn nesaf hefyd, yn Waterwynch

  • Byddwch yn cyrraedd uwchlaw traeth gogleddol Dinbych-y-pysgod ac ewch ymlaen i’r dref

  • Cerddwch i draeth y de os yw’r llanw’n isel, neu trwy ganol y dref a’r Esplanade os yw’r llanw’n uchel.

  • Cerddwch i ben arall traeth y de, neu ewch i mewn i’r tir a dilyn y rheilffordd os yw’r maes tanio sydd ym mhen pellaf y traeth yn cael ei ddefnyddio

  • Dringwch y bryn bychan yn y pen draw a dilynwch y clogwyni gwastad i Lydstep

  • Ewch drwy’r maes carafanau

  • Dringwch allt darmac gymedrol yr ochr draw

  • Dilynwch y llwybr garw ar y dde tuag at bentref Lydstep

  • Trowch i’r chwith ac yna ymlaen am hanner milltir at yr hostel ieuenctid

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dynodi’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Mae digonedd o ddewis yn Amroth, Saundersfoot, a Dinbych-y-pysgod. Tŷ tafarn yn Wiseman’s Bridge a Lydstep.

Atyniadau ar y daith: Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn Ninbych-y-pysgod. Oriel ac Amgueddfa Dinbych-y-pysgod.

Canolfan Groeso agosaf: Dinbych-y-pysgod, Upper Park Road (Ger y maes parcio aml-lawr a’r orsaf fysiau)

Ffôn: 01437 775603

E-bost: tenby.tic@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi