Aberdaugleddau i Dale

9 milltir

9 milltir

Aberdaugleddau i Dale

Taith gerdded eithaf rhwydd heb unrhyw elltydd serth.

Mae’r rhan yma o’r llwybr yn mynd â chi heibio canolfan ddiwydiannol Sir Benfro, purfa LNG, cyn dychwelyd i gefn gwlad.

Wrth nesáu at Sandy Haven, gwnewch yn siwr eich bod wedi edrych ar amseroedd y llanw gan nad oes modd defnyddio’r ffordd ar draws y Pill ar lanw uchel, ac mae’r gwyriad yn golygu cerdded ryw 4 milltir i mewn i’r tir.

Yma, mae llwybr yr arfordir yn mynd heibio i fae hardd Lindsway a phorth bychan Monks Haven, cyn cyrraedd fflatiau llaid y Gann, ger Dale. Mae’r Gann yn lle gwych i wylio adar, felly cofiwch ddod â binocwlars.

Llwybr

  • Gan ddechrau o’r marina, croeswch y bont a throwch i’r chwith ar St Anne’s Road

  • Dilynwch lwybr mor syth â phosibl trwy Hakin

  • Wedi i chi fynd heibio’r ysgol, trowch i’r chwith ac i lawr i Fae Gelliswick

  • Mae’r llwybr yn dringo’r ochr draw, heibio i ychydig o dai a’r burfa nwy naturiol cyn cyrraedd Sandy Haven

  • Dim ond am ryw 2½ awr o boptu’r llanw isel y mae sicrwydd o allu croesi’r sarn yn Sandy Haven. Os byddwch yn cyrraedd ar yr adeg anghywir, bydd yn rhaid i chi gerdded ryw 4 milltir ychwanegol! Gwiriwch amseroedd y llanw

  • Mae golygfeydd gwych ar hyd y rhan nesaf o’r daith, gan gynnwys traeth hardd Lindsway, yn enwedig ar lanw isel

  • Os oes gennych amser dringwch i lawr i’r traeth, cyn dal i fynd tuag at draeth bach creigiog Monk Haven. Mae ambell i adeilad difyr i’w gweld ar y ffordd yno

  • Yn Musselwick, ewch i lawr i’r traeth cyn gynted ag y gallwch chi, ac ewch ar hyd y traeth tuag at y Gann, sy’n lle gwych i wylio adar

  • Dim ond am 3½ awr o boptu llanw isel y mae modd croesi’r Gann, ond dim ond 2 filltir o wyriad sydd y tro yma!

  • Ewch ar hyd y grib o gerrig mân, ac yna ar hyd y ffordd i Dale

  • Os ydych yn ansicr, dilynwch yr arwyddion mesen sy’n dangos ble mae’r llwybr

Lawlwytho ffeil GPX

Gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniaeth: Digonedd o ddewis yn Aberdaugleddau, ac mae tafarn a chaffi yn Dale.

Atyniadau ar y daith: Amgueddfa a marina Aberdaugleddau, a chanolfan chwaraeon môr yn Dale.

Canolfan Groeso agosaf: Hwlffordd,

Ffôn: 01437 775244,

E-bost: haverfordwestlendinglibrary@pembrokeshire.gov.uk

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi