Gerddi i’ch ysbrydoli

Syniadau i’w defnyddio gartref

O erddi rhosod i goedlannau braf

Gerddi yn Sir Benfro

Yn y gwanwyn mae gardd Goedwig Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ger Amroth, yn garped o glychau’r gog, saffrwm a chennin Pedr.

Yng ngardd goetir ddeugain erw Castell Pictwn, mae rhai o’r coed mwyaf a hynaf yng ngorllewin Cymru yn gymysg â llwyni anghyffredin o bedwar ban byd.

Mae Gerddi Castle Upton yn nifer o erddi mewn un; gardd furiog, gardd rosod ffurfiol, a’r cyfan yng nghanol coedfa o goed prin a blannwyd yn y 1920au a’r 30au.

Ym mryniau’r Preseli, mae Penlan Uchaf yn ardd wedi’i thirlunio gyda gardd berlysiau, nant fechan a llynnoedd.

Ym mhentref bychan Llanychaer ger Abergwaun, mae Dyffryn Fernant yn ardd 6 erw a oedd yn ‘anialwch llwyr’ pan sefydlwyd hi ym 1996. Erbyn hyn, mae bob math o wahanol blannu yma, gan gynnwys gardd gors, cae glaswellt addurnol a rhedynfa.

Darganfyddwch ragor o erddi a’r cyfrinachau sydd yng ngerddi muriog Sir Benfro.