Ychydig bach o foethusrwydd
Diwrnodau sba a gwyliau sba yn Sir Benfro
Beth sydd well ar ôl diwrnod egnïol yn cerdded Llwybr yr Arfordir na therapi neu ddau, neu orweddian mewn sba moethus er mwyn ymlacio ?
Wedi meddwl, does dim angen unrhyw esgus arnoch.
Felly beth am dretio’ch hun i wyliau sba, ffordd ardderchog o godi’ch calon, yn enwedig yn ystod misoedd tywyll y gaeaf.
Lapiwch eich hun mewn gŵn meddal, clyd, gadewch eich gofidiau wrth y drws, ymlaciwch a gadewch i’r therapyddion wneud eu gwaith. Dyma amser i chi a neb arall!
Gall sbâu Sir Benfro helpu i leddfu’ch traed tost, bywiogi’ch meddwl a’ch gwneud yn barod i wynebu’r dyfodol.