Mae cerddoriaeth a chanu yn ein gwaed

Rydym yng Nghymru wedi’i cwbl!

Mae cerddorion Sir Benfro yn griw talentog

Cerddoriaeth yn Sir Benfro

Beth allai fod yn well na chyngerdd clasurol yn Eglwys Gadeiriol odidog Tyddewi neu set acwstig mewn caffi bychan yn edrych dros y môr yn Ninbych-y-pysgod?

Cynhelir gwyliau cerddoriaeth rhyngwladol ledled Sir Benfro, lle mae’r cerddorion a’r unawdwyr gorau’n casglu ynghyd i ddathlu gwaith clasurol a chyfoes yng Ngŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Abergwaun.

Os mai’r Blŵs a Jazz sy’n mynd â’ch bryd, mae’n rhaid i chi fynd i Ŵyl Blŵs Dinbych-y-pysgod neu Aberjazz yn Abergwaun. Mae artistiaid rhyngwladol o bedwar ban byd yn heidio i’r tafarndai a’r clybiau o ganol dydd hyd hanner nos.

I’r rhai hynny sy’n dwlu ar gerddoriaeth werin, Abergwaun yw’r lle. Yn ogystal â’r Ŵyl Werin a gynhelir yno bob mis Mai, mae tafarndai’r dref a’r ardal yn cynnal nosweithiau gwerin wythnosol anffurfiol. Wyddoch chi byth pwy fydd yn perfformio yno.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi