Mae cant a mil o bethau i’w gwneud

Digonedd o ddigwyddiadau, gwibdeithiau ac atyniadau

Digonedd o ddigwyddiadau, gwibdeithiau ac atyniadau

Pethau i’w gwneud yn Sir Benfro

Yma yn Sir Benfro rydym yn ffodus iawn o fod â llond gwlad o atyniadau naturiol gogoneddus, ond hyd yn oed oddi wrth yr arfordir a’r mynyddoedd, mae digonedd yma i’ch diddori.

Beth am gael blas ar ein hanes hudolus yn un o’n cestyll ysblennydd neu’n henebion, neu grwydro drwy erddi muriog lliwgar er mwyn cael ysbrydoliaeth? Mwynhewch gyffro reidiau cyffrous gyda’r teulu mewn parc hamdden neu barc antur.

Ewch ar daith cwch i grwydro ynysoedd a bywyd gwyllt Sir Benfro o le gwahanol i’r rhan fwyaf o bobl. Bwytewch bryd blasus wedi’i wneud o ddanteithion gorau Sir Benfro neu gwyliwch yr arbenigwyr yn paratoi pryd mewn munudau mewn gŵyl fwyd.

Crwydrwch drwy amgueddfa neu oriel sydd wedi derbyn clod cenedlaethol a rhyfeddwch at waith celf ac arteffactau syfrdanol. Ewch i gwrdd â chrefftwyr ac artistiaid Sir Benfro yn eu stiwdios a’u melinau.

Treuliwch ddiwrnod wedi’ch lapio mewn gwymon neu neidiwch i bwll cynnes gyda golygfeydd heb eu hail mewn sba tawel. Yna byddwch yn barod i fynd allan i fwynhau doniau cerddorion Sir Benfro, boed hynny’n fand gwerin traddodiadol yng nghornel tafarn leol neu gyngerdd clasurol yn Eglwys Gadeiriol fendigedig Tyddewi.