Mwy na gardd yn unig

Yn llawn hanes

Archwiliwch fyd cudd

Gerddi muriog yn Sir Benfro

Ewch ar daith o amgylch gerddi muriog hyfryd Sir Benfro gan edmygu pob bricsen hardd, yn plith, Gardd Furiog Ystagbwll a Gardd Goedwig Colby.

Castell Upton, Cosheston

Mae’r gerddi hyn i gyd wedi eu hamgylchynu gan goed prin, y rhan fwyaf wedi eu plannu yn y 1920au a’r 30au a’r ardd furiog hon yw’r unig ardd furiog restredig yn Sir Benfro sydd ar agor i’r cyhoedd. Â hithau’n dal i gael ei defnyddio fel gardd draddodiadol, mae’r ardd furiog un erw a hanner hon yn tyfu llysiau, perlysiau, blodau parod i’w torri ac mae gwinwydd yn tyfu dros y waliau.

Mae’n sicr yn werth ymweld er mwyn cael blas ar hanes garddwriaeth ac er mwyn edmygu harddwch yr ardd.

Gerddi Muriog Ystangbwll

 gerddi sy’n dyddio mor bell yn ôl â 1770, mae’r safle 6 erw wedi adennill peth o’i hen hyfrydwch. Mae’n adnabyddus am dyfu ffrwythau a llysiau a gallwch nawr ddysgu am hanes y gerddi a’r gwaith sy’n digwydd yma o ddydd i ddydd yn y ganolfan ymwelwyr, a phrynu peth o’r cynnyrch a’r planhigion sy’n cael eu tyfu yma yn y siop arddio.

Gallwch hefyd gael paned yng nghaffi’r Cawdors a blasu peth o gynnyrch Sir Benfro!

Gerddi Muriog Ystangbwll

Gardd Goedwig Colby, Amroth

Yn nythu ym mherfeddion y dyffryn, mae Colby yn cynnig teithiau cerdded godidog drwy’r coed, dôl â nant yn llifo trwyddi, a gerddi ffurfiol. Mae’r gerddi muriog, sy’n gartref i bedair hwyaden hoffus, wedi eu rhannu’n ardaloedd gwahanol i chi eu crwydro. Mae parlwr te Bothy yn boblogaidd dros ben ac mae’n gweini bwyd wedi ei baratoi’n ffres ynghyd â chacennau blasus (y te hufen yn enwedig!)

Parc Gwledig Maenordy Scolton, Hwlffordd

Wedi ei lleoli 5 milltir i’r gogledd o Hwlffordd, cafodd gardd furiog Maenordy Scolton ei thrawsnewid yn 2013 wedi cyfnod digon llwm. Mae’r gwaith o adnewyddu waliau’r ardd a’r Tŷ Pînafal bellach wedi ei orffen. Mae coed ffrwyddau bellach wedi’u planu yn yr ardd Fictorianaidd bellach a gwinwydd yn tyfu dros y waliau, ac mae’r gwaith plannu’n parhau. Mae’r parc gwledig yn ymestyn dros bron i 60 erw o dir a choetir ac mae’r maenordy hefyd ar agor i ymwelwyr. Cewch orffen y diwrnod yn y parlwr te gyda phaned a chacennau cartref.

©VisitPembrokeshire.com
Parc Gwledig Maenordy Scolton

Hilton Court, Y Garn

Nid gardd furiog yw hon fel y cyfryw, ond mae’n bendant werth sôn amdani. Yma yn Hilton Court mae cromen solar geodesig sy’n gartref i blanhigion trofannol drwy gydol y flwyddyn. Ochr yn ochr â’r coetir a’r gerddi blodau a dŵr traddodiadol, mae crochendy ar y safle, yn ogystal â chaffi sy’n edrych dros y gerddi a bwyty yn yr iard. Cadwch lygad am glychau’r gog ddiwedd Ebrill a dechrau Mai, ac am  y ddraenen wen hyfryd sydd gerllaw’r lili dŵr.

©Hilton Court
Hilton Court

Gerddi Castell Picton, Hwlffordd

Yn hen ffefryn gan lawer, mae gerddi Picton ar wasgar dros 40 erw, gyda choetir ac ardal chwarae i blant. Yn yr ardd furiog mae tŷ gwydr ar gyfer planhigion trofannol, ffynnon a gardd berlysiau fawr sy’n gartref i blanhigion o bob cwr o’r byd. Dyma’r lle perffaith i ddod â phicnic, ond os yw hynny’n ormod o drafferth, mae bwyty Maria yn yr iard yn gweini cinio a hufen iâ er mwyn i chi gael eich gwynt atoch ar ôl yr holl gerdded!

Mae’r gwanwyn yn adeg perffaith i grwydro cefn gwlad Sir Benfro wrth i’r cloddiau flodeuo’n lliwgar. Dyma’r 4 taith gerdded orau lle gallwch fwynhau ein golygfeydd godidog a blodau gwylltion. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi