Ble mae'r gorau

Y 10 tafarn orau ar lan y môr neu afon

Does unman gwell i dreulio awr neu ddwy yng nghwmni ffrindiau neu’n gwneud dim ond gwylio pobl nac mewn tafarn ar lan y dŵr.

P’un ai’n gwylio’r haul yn machlud ar noson braf o haf neu wedi lapio’n glyd yng nghanol y gaeaf ble gwell i enaid gael llonydd na ger y dŵr?

Gyda chymaint o opsiynau sut allen ni ddewis, felly fe ofynnon ni i’n ffrindiau ar Facebook ac rydyn ni wedi cael ein boddi ag awgrymiadau!

Felly dyma’r 10 tafarn orau ar lan y môr neu afon a ddewiswyd gennych chi.

  1. The Druidstone

Ar fin y clogwyn, fry uwchben traeth o’r un enw, y Druidstone yw’r lle gorau posibl i wylio’r haul yn machlud. Fel y dywedodd Rachel Mullett “Does dim curo eistedd y tu allan i’r ‘Dru’ gyda gwydraid oer o win (neu gwrw) yn gwylio haul yr haf yn machlud…” Does dim rhyfedd hon ddod ar ben y rhestr!

©Rachel Mullett
Druidston

2.     Jolly Sailor, Burton

Dafliad carreg o foryd Daugleddau, mae gardd fawr y Jolly Sailor bob amser yn denu cwsmeriaid. Mae lle chwarae a digon o le i redeg yn ei wneud yn berffaith ar gyfer teuluoedd. Os yw’r llanw’n iawn, gallwch hefyd ddal crancododdi ar y pontŵn.

©Jolly Sailor

3.     The Swan Inn,  Aber Bach

Un o ddwy dafarn yn Aber Bach i gyrraedd eich rhestr fer, mae’r Swan Inn ar Point Road yn edrych dros draeth Aber Bach. Mae ganddynt ardd gwrw/teras bach gyda soffas – perffaith ar gyfer gwylio’r byd yn mynd heibio.

©The Swan Inn

4.     Wisemans Bridge Inn

Allech chi ddim bod yn nes at y traeth nac yma yn y Wisemans Bridge Inn, gyda’i ystafell wydr enfawr ar gyfer dyddiau glawog a digon o le i eistedd y tu allan ar y traeth, mae’n berffaith boed law neu hindda.

©Wiseman's Bridge Inn

5.     The Griffin, Dale

Mae’r Griffin, ar fin y môr yn Dale ,yn lle perffaith i wylio hynt a helynt y bae. Fe gewch chi olygfeydd gwych i lawr yr aber o’r man eistedd y tu allan, uwchben y bwyty, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymgynnull ar hyd wal y môr.

©The Griffin Inn

6. The Sloop, Porthgain

Mae hon yn dafarn hynod, llawn cymeriad gyda digon o le eistedd y tu allan, sy’n gwneud y gorau o’i lleoliad yn harbwr pentref bach Porthgain.  Ac ar y nosweithiau llai braf hynny, cewch groeso cynnes yn y dafarn glyd.

©VisitPembrokeshire.com

7.     Cresselly Arms, Cresswell Quay

Ar lan afon lanwol Creswell, does dim yn well ar fin nos braf nag eistedd ar y cei wrth i’r llanw ddod i mewn yn gwylio llynges fechan yn hwylio i fyny’r afon, gyda pheint o gwrw lleol yn eich llaw. Mae’r dafarn hefyd yn enwog am ei rhan yn y ffilm 2017 ‘Their Finest’  gyda Sam Claflin, Gemma Arterton a Bill Nighy.

©The Cresselly Arms

8.     The Castle, Aber Bach

Dewis gwych arall yn Aber Bach, ger y traeth y tro hwn, yw’r Castle sy’n cynnal nosweithiau gyda bandiau byw lleol gwych. Mae hefyd yn berffaith ar gyfer teuluoedd gan y gallwch gael diod tra mae’r plant yn chwarae yn y pyllau lan môr.

©The Castle

9.     The Point House, Angle

Does fawr o dafarndai lle mae’n rhaid i chi edrych ar amseroedd y llanw cyn i chi fynd yno. Mae’r ffordd i’r dafarn yn Angle Point yn diflannu ar lanw uchel iawn, gan eich gadael yn sownd yno. Does bosib bod hynny’n beth drwg!

©Kirsty Morris

10. The Ferry Inn, Llandudoch

I fyny’r afon Teifi ryw ychydig  o Aberteifi, mae gan y Ferry Inn ei glanfa ei hun, perffaith os ydych chi’n ymweld â chaiac. Mae’r dafarn dros yr afon felly, os ydych chi tu mewn neu tu allan, rydych chi’n teimlo fel petaech chi yn y dŵr!

©The Ferry Inn
©VisitPembrokeshire.com

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi