Oriel Glan-yr-afon yn agor ei drysau

Ysgrifennwyd gan Croeso Sir Benfro

Tir a Môr gan Kyffin Williams fydd yr arddangosfa agoriadol  

Mae oriel Glan-yr-Afon, sydd yng nghanol  Hwlffordd, yn  gydweithrediad unigryw rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac er mwyn dathlu ei hagoriad, bydd yr oriel yn cynnal dwy arddangosfa gyffrous fydd yn arddangos eitemau sydd o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol.  

Arddangosfa agoriadol o waith Kyffin Williams: Tir a Môr

Bydd Kyffin Williams: Tir a Môr yn dangos casgliad anhygoel o waith gan un o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru, Syr Kyffin Williams, er mwyn dathlu can mlynedd ers ei eni. 

Syr Kyffin oedd artist mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol Cymru erioed. Roedd Syr Kyffin, a gafodd ei urddo’n farchog ym 1999, yn llysgennad ar gyfer y celfyddydau yng Nghymcru a fe roddodd gymorth i artistiaid eraill ei gyfnod yn ogystal â helpu i sefydlu orielau celf yng ngogledd a de Cymru.  

Oriel Glan-yr-Afon/ The Riverside, Hwlffordd

Mae Syr Kyffin yn fwyaf adnabyddus am ei dirluniau impasto o Gymru a’i bortreadau llawn egni o bersonoliaethau lleol a chenedlaethol, ac mae ei arddull bellach yn symbol o Gymru a’i ddarluniau’n diffinio Cymreictod. Roedd hefyd yn ymweld â gwledydd eraill ac yn eu peintio, ac mae Glan-yr-Afon yn falch o gael arddangos nifer o’i beintiadau o Batagonia ynghyd â’r palet a ddefnyddiwyd ganddo wrth eu creu. Bydd arddangosfa Kyffin Williams: Tir a Môr  yn tynnu gwaith o’r casgliad mwyaf a mwyaf cynhwysfawr o ddeunydd sy’n ymwneud â Kyffin Williams sydd ar gael ac a gafodd ei adael i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan yr artist ei hun.  

Mae Stori Sir Benfro yn arddangosfa barhaol sy’n canolbwyntio ar hanes, diwylliant, celfyddyau a chwedlau Sir Benfro. Bydd yn cynnwys llawysgrifau, llythyrau, posteri, peintiadau a ffotograffau gwreiddiol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae llythyr gwreiddiol oddi wrth ‘Rebecca’ at Ficer Penbryn, dyddiedig 16 Mehefin 1843, syn cyfeirio at droseddau’r Ficer ac yn ei fygwth â thrais, a pheintiad olew gan Richard Wilson o Gastell Penfro. 

Mae oriel Glan-yr-Afon yn rhan o ganolfan ddiwylliannol flaenllaw a newydd ar lan yr afon yng nghanol Hwlffordd. Mae’n cynnwys llyfrgell sirol newydd, siop goffi a man gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd wythnos o weithgareddau i ddathlu’r agoriad yn dechrau am 10yb, ddydd Gwener 7 Rhagfyr. 

Cynhelir y ddwy arddangosfa, sef Kyffin Williams: Tir a Môr a Stori Sir Benfro o 7 Rhagfyr 2018 tan 11  Mai 2019. 

Daeth yr arian i adeiladu’r ganolfan o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.  

Mae Cyngor Tref Hwlffordd wedi cyflwyno pecyn ariannu am gyfnod o bum mlynedd er mwyn sicrhau bod y llyfrgell ar agor ar brynhawniau Sadwrn drwy’r flwyddyn. Roedd y llyfrgell blaenorol ar agor ar foreau Sadwrn yn unig.