Pysgota craig

Y lleoedd gorau yn Sir Benfro

Lleoedd perffaith i fachu’ch swper

Y 6 lle gorau i bysgota craig

Mae arfordir garw Sir Benfro yn lle gwych i enweirwyr.

Dyma ychydig o’r llawer o fannau ardderchog ar gyfer pysgota craig.

  • Trwyn Monkstone

Bron i hanner ffordd rhwng Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod, mae Trwyn Monkstone yn farc craig da ar gyfer pysgota draenogiaid y môr. Cymerwch ofal, gallwch gael eich dal gan y llanw. Mae’r holl abwyd draenog y môr arferol yn effeithiol yma, ond mae’n anodd curo crancod sydd wedi bwrw’u cragen neu lymrïaid ffres.

Mae gan y creigiau o gwmpas y pentir hanes hir fel lle da i bysgota gyda fflôt am wrachod y môr, swtanod, brithyllod Mair tair barf, a cornbigau a mecryll wrth gwrs.

  • Trwyn Giltar

Lle da i bysgota am ryw ddwy awr y naill ochr a’r llall i’r llanw, pan gellir dal draenogiaid y môr ar fflôt gan ddefnyddio llymrïaid neu grancod. Mae’n gall defnyddio rig bysgota gwaelod gwan (rotten bottom) oherwydd y tir garw. Pan fydd cerhyntau cryfion drwy’r swnt, mae’n well pysgota gydag abwyd neu bluen dro na physgota fflôt neu waelod y môr. Ymhlith y rhywogaethau cyffredin eraill yma mae morleisiaid, mecryll, cornbigau, gwrachod y môr, brithyllod Mair ac ambell i lysywen fôr fechan.

  • Penmaen Dewi

Lle gwych i ddal morleisiaid a mecryll ar daclau fflôt; pan fyddan nhw’n dod yn agos i’r traeth, bydd siarcod weithiau’n eu dilyn. Mae hwn yn dir garw wedi’i orchuddio â gwymon gan fwyaf, felly dylech ddisgwyl colli rhywfaint o daclau. Mae llysywod y môr yn llechu yn y dyfnderoedd ac yn bachu abwyd môr-lawes, fel y gwnaiff morleisiaid a morgwn mawr hefyd. Yn agos i’r lan, bydd cleiriach y gwymon a gwrachod rhesog yn aml yn bachu ar abwyd cranc neu lygaid meheryn. Gallwch ddisgwyl digon o forgwn tua diwedd yr haf ac yn yr hydref.

Bydd castio canolig yn mynd â’ch abwyd i’r dyfnderoedd tuag at lysywod y môr mawrion. Ar lanw mawr, gallwch golli taclau ar wely creigiog y môr, felly mae’n ddoeth pysgota yma pan fydd llanw isel ar droi. Mae’n dda ar gyfer mecryll a chornbigau, ac yn wych ar gyfer llysywod y môr, morgwn, morleisiaid, gwrachod y môr ac ambell i honos yn gynnar yn y flwyddyn. Mae llymrïaid neu stribedi macrell yn abwyd ardderchog ar gyfer morgwn mawr, a bydd llysywod môr mawr yn bachu talpau o fôr-lawes neu facrell cyfan.

Lle ardderchog i bysgota gyda fflôt neu bluen dro ar greigiau’r ochr ddeheuol. Mae digonedd o fecryll, morleisiaid a gwrachod y môr yma y naill ochr a’r llall i’r penllanw, a gellir dal lledod ar abwyd melys neu lyngwn wedi’u castio. Daw draenogiaid y môr i mewn ar lanw mawr a gellir eu dal gyda phluen dro neu fflôt a chranc wedi bwrw’i gragen. Mae’r ardal hon yn boblogaidd gyda cherddwyr ac felly nid yw’n ddiogel pysgota â phlu yma pan fydd hi’n brysur.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi