Caru Instagram?

Fyddwch chi’n siwr o garu Sir Benfro!

Rhai o’r llefydd gorau i dynnu ffotograffau yn Sir Benfro

Y 10 lle gorau yn Sir Benfro i’w Instagramio

Mae’r rhan fwyaf o arfordir Sir Benfro yn cael ei warchod gan statws Parc Cenedlaethol.

Felly mae ein harfordir a’n tirlun wedi cael eu diogelu a’u cadw’n gwbl naturiol, heb eu difetha.

Yn wir, mae Sir Benfro’n baradwys i’r ffotograffydd. Cymerwch olwg ar ein rhestr o’r 10 lle gorau yn Sir Benfro i’w Instagramio a bant â chi i dynnu lluniau!

  • Yr olygfa o Garn Llidi

Mae’n werth cerdded y llwybr byr i gopa Carn Llidi ar Benrhyn Dewi i gael llun o’r olygfa drawiadol o draeth Porth Mawr islaw ac Ynys Dewi yn y pellter. Does dim rhyfedd ei fod yn lle poblogaidd gyda ffotograffwyr.

 

Carn Llidi
  • Staciau’r Heligog

Mae cyrraedd Staciau’r Heligog yn dipyn o antur – rhaid i chi fentro drwy faes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastell Martin, felly holwch am amseroedd tanio cyn ymweld. Ar un adeg, roedd y ddau biler calchfaen yn rhan o fwa, yn debyg i’r Bont Werdd, sydd bellach wedi dymchwel. Yn y gwanwyn a’r haf mae miloedd o adar môr yn clebran ar y creigiau.

Staciau’r Heligog
  • Pwll Deri

Fel morlun epig, mae Pwll Deri heb ei ail. Mae’r olygfa’n tynnu’r llygad ar hyd yr arfordir yr holl ffordd i lawr i Garn Llidi, copa Penrhyn Dewi. Os ydych yn aros yn Hostel Ieuenctid Pwll Deri, mae’n llecyn perffaith i wylio’r machlud.

©Kirsty Morris
Pwll Deri
  • Druidstone

Ar ben clogwyn fry uwchben Bae Sain Ffraid, mae’r olygfa o Westy Druidstone siwr o yn blesio bob tro. Sut ar y ddaear y gallwch chi ganolbwyntio ar eich cinio neu’ch coffi pan fydd cystal golygfa o’ch blaen? A gyda’r nos, os yw’r tywydd yn iawn, ewch allan gyda’ch diod i fwynhau byd natur ar ei orau.

Druidstone
  • Trefdraeth o Fedd Morris

Dilynwch y ffordd gul, wyntog dros y grid gwartheg i’r bryniau y tu ôl i Drefdraeth, gan gadw golwg am y merlod sy’n crwydro’r tir comin. Parciwch ychydig cyn y copa, cyn troi a gweld holl ehangder bae Trefdraeth islaw. Syfrdanol.

Yr olygfa o Fedd Morris
  • Traeth Niwgwl

Mae dynesu at draeth Niwgwl o Lwybr yr Arfordir ym Mhen-y-cwm yn dipyn o brofiad. Os gyrhaeddwch chi pan fydd y llanw allan, bydd golygfa FAWR o’ch blaen. Mae’r bron i ddwy filltir o draeth euraid yn baradwys ar gyfer chwaraeon dŵr, gyda syrffio, syrffio barcud, padlfyrddio a chaiacio yn boblogaidd. Digonedd o botensial ar gyfer Instagram!

Niwgwl
  • Capel Sant Gofan

Yn swatio ar wyneb y clogwyn, mae’r capel bychan hwn, a gysegrwyd i Sant Gofan, yn cuddio o’r golwg heblaw eich bod yn edrych dros ymyl y clogwyn. Cofiwch gyfri’r grisiau ar eich ffordd i lawr oherwydd, yn ôl y sôn, fyddwch chi byth yn cyfri’r un nifer ar eich ffordd yn ôl i fyny!

Capel Sant Gofan
  • Y Gwanwyn ar Ynys Sgomer

Mae Ynys Sgomer yn adnabyddus ym mhedwar ban byd am ei phalod bach digywilydd sy’n crwydro o gwmpas yn gwbl eofn, ond os mentrwch chi i’r ynys yn y gwanwyn, bydd môr o las a phinc yn eich disgwyl, a’r ynys wedi’i gorchuddio’n gyfan gwbl â Chlychau’r Gog a Gwlydd y Geifr. Mae’n olygfa ryfeddol.

©Lisa Soar
Clychau’r gog ar Ynys Sgomer
  • Pen-caer

Saif goleudy Pen-caer a adeiladwyd ym 1908, yn fawreddog ar Ynysmeicl, ynys fechan i’r gorllewin o Abergwaun. Dim ond bwlch cul iawn sy’n ei gwahanu oddi wrth y tir mawr ac mae’r môr yn berwi drwyddo mewn tywydd garw. Mae’r pentir hwn yn lle ardderchog i weld bywyd gwyllt hefyd.

Pen-caer
  • De Aberllydan

Mae De Aberllydan yn draeth tywodlyd, llydan gyda thwyni y tu ôl iddo – eich gwobr am gerdded y filltir a hanner drwy byllau lili Bosherston. Meindwr uchel ac adnabuddus Church Rock yw prif nodwedd y traeth ac mae’n llun poblogaidd iawn gydag Instagramwyr.

De Aberllydan

Gallai’r rhestr hon fod yn ddi-ddiwedd gan fod cymaint i’w weld yn Sir Benfro. Dydyn ni ddim wedi hyd yn oed ddechrau sôn am harbwr Dinbych-y-pysgod nac Eglwys Gadeiriol Tyddewi!

Rhannwch eich ffefrynnau chi gyda ni ar @VisitPembrokeshire #VisitPembrokeshire #igerspembrokeshire

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi