Y te prynhawn gorau

Brechdanau blasus a chacennau twt

Te prynhawn a hufen tolch

Te prynhawn yn Sir Benfro

Am wybod ble mae’r te hufen gorau yn Sir Benfro?

Does yr un gwyliau’n gyflawn heb de prynhawn moethus. Jam wedyn hufen, hufen wedyn jam, pwy sy’n poeni?  Dyma restr o’n hoff leoedd:

Y plasty newydd ei adnewyddu hwn yw’r lleoliad perffaith ar gyfer te prynhawn hamddenol. Dechreuwch gyda photiaid o de, gwydraid o siampên neu goctel y tŷ ac yna eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch. Rydym wrth ein bodd gyda’r pice bach cartref, y lleoliad hamddenol ond smart, a’r staff gofalgar. O am gael mynd yno bob dydd …             

  • The Grove, Arberth

Am y te prynhawn mwyaf moethus posibl, ewch draw i’r Grove. Rhwng 3 a 5 y prynhawn, cewch de ar y teras uwchben yr ardd. Cewch fwynhau brechdanau wedi’u torri’n ffres a the, ynghyd â sgonau cartref yn drwch o fenyn a hufen tolch Llanhuadain.

  • Gwesty St Brides Spa, Saundersfoot

A’r un mor flasus yw’r te ar y galeri panoramig yng ngwesty St Brides Spa, uwchben Harbwr Saundersfoot. O ddau o’r gloch y prynhawn bydd gwledd o frechdanau twt, cacennau, sgonau a champagne ynghyd ag un o’r golygfeydd gorau yn Sir Benfro yn eich disgwyl.

  • Parc Slebech, Hwlffordd

Gyda’i golygfeydd, ei llwybrau cerdded gwych a digonedd i deuluoedd ei wneud, mae Ystâd Parc Slebech yn lle hamddenol braf i fwynhau te prynhawn. Cewch ddewis o blith y te hufen ysgafnach, te prynhawn llawn neu ewch amdani gyda’r te Fictoraidd! Bydd angen i chi fynd am dro wedyn yn y lle gwyliau nefolaidd hwn!

  • Solfach

Mae’n werth chweil mynd i’r Old Pharmacy a MamGu Welshcakes am gacennau cartref, te a choffi (mae MamGu’n gwneud pice bach diglwten). Ein cyngor ni yw i ddechrau yn un o’r ddau le, aros i’r llanw fynd allan  yna cerdded allan o harbwr Solfach a nôl dros y pentir er mwyn codi archwaeth ar gyfer y llall!

  • The Boathouse Cafe, Cei Ystangbwll

Yng nghaffi’r Boathouse mae’r tîm yn pobi sgonau melys a sawrus ynghyd â’u cacennau te enwog sy’n ddigon mawr i alw ‘chi’ arnyn nhw! Bydd talpiau mawr o gacennau cartref yn siwr o’ch temtio, a bydd y daith gerdded i Fae Barafundle ac yn ôl werth pob cam.

  • Tŷ Te y Bothy, Gardd Goetir Colby  

Bu gardd Goedwig Colby yn gartref i Dŷ Te y Bothy ers deng mlynedd bellach. Mae’n lle poblogaidd iawn gyda phobl leol, ac yn lle ardderchog i fwynhau danteithion melys, gydag erwau o goetir wrth law i fagu chwant bwyd a chowrt hyfryd i eistedd y tu allan. Digonedd o jam a hufen – pwysig iawn!

  • Parc Slebets, Hwlffordd

Gyda golygfeydd godidog, llwybrau a digonedd i’w wneud i deuluoedd, mae ystâd Parc Slebets yn cynnig y lleoliad tawel perffaith i fwynhau un o nifer o ddewisiadau te prynhawn: y te hufen ysgafn, y te prynhawn llawn neu’r te mawr Fictoraidd. Yna ewch am dro rownd y tir – nefoedd yn wir!

  •  Bosherston Tea Rooms, Bosherston

Yn dal i gael ei adnabod yn lleol fel ‘Aunt Vi’s ‘ (ar ôl Violet a fu’n rhedeg y caffi am 75 mlynedd gan dderbyn MBE am ei llafur, ac a fu farw’n drist iawn yn 2016), mae’r tŷ te hynod hwn ym mhentref Bosherston yn dal i wneud te’r ffordd hen ffasiwn – gyda dail rhydd mewn tebot mawr – gyda the hufen neu gacen de wedi’i thostio. Gan ddal i ddilyn ôl troed ardderchog Auntie vi, cymrwch gam yn ôl mewn amser ac eisteddwch wrth un o’r byrddau heulog yn yr ardd, er mwyn gwylio’r byd a’i bethau’n mynd heibio. Mae lle i’r plant redeg ac mae croeso i gŵn ar dennyn.

  • Quayside Tearoom, Lawrenni

Ger y dŵr yng Nghei Lawrenni, mae’r llecyn heulog hwn yn ddelfrydol ar gyfer mwynhau’r cacennau ffres o bopty’r Quayside Tearoom. Er nad yw hwn yn de hufen llawn traddodiadol mae dewis blasus o gacennau i’w cael gyda the neu goffi. Ein hoff rai ni yw’r gacen gaws lemwn a leim (anhygoel) a’r gacen fefus a hufen, bedair haen. Os ydych am fynd i gerdded ar hyd yr aber, mae’r llwybr y tu ôl i’r caffi, ond os mai chwaraeon dŵr sy’n mynd â’ch bryd, mae hwn yn lle gwych i glymu eich caiac a chael mymryn o ginio a chacen.

  • Aberteifi

Yn ddadleuol braidd, rydym yn mynd i roi syniad gwahanol i de hufen i chi hefyd, ac awgrymu eich bod yn mynd i fwynhau toesen yn Crwst, sydd fymryn dros y ffin.  Mae’r tîm o entrepreneuriaid ifanc yma wedi gwneud eu henw’n gwerthu gwerthu toesenni cartref, bara a chacennau mewn marchnadoedd lleol. Maen nhw’n gwneud cinio gwych ac yn awr ar agor rai nosweithiau hefyd. Ein ffefrynnau ni yw’r latte bara sinsir a’r toesenni meringue lemon ond a dweud y gwir, bydden ni’n mwynhau unrhyw beth! Cymaint o doesenni … cyn lleied o amser!

 Ydyn nhi wedi sôn am eich ffefryn chi? Oes gennych chi unrhyw beth i’w ychwanegu? Rhannwch eich hoff brofiadau te hufen gyda ni ar Facebook a Twitter.