Arogl persawr ar y gwynt

Cerdded yn Sir Benfro yn y gwanwyn

Golgygfeydd godidog

Llwybrau'r gwanwyn

Wrth i’r dyddiau ddechrau ymestyn, mae’n amser perffaith i fynd am dro.

Ewch am dro er mwyn mwynhau golygfeydd gogoneddus a blodau hyfryd y gwanwyn. Dyma bedwar o’n hoff lwybrau.

  • Y Gribyn, Solfach

Pam?

Carpedi o glychau’r gog ym mis Mai, nifer o dafarnau a chaffis braf yn Solfach i gael cinio, golygfeydd anhygoel o Solfach a’r arfordir.

Pa mor bell?

Bydd yn cymryd rhyw awr i ben y gribyn ac yn ôl, ond gallwch ymestyn y daith fel y mynnwch.

 Pa mor galed?

Mae’r llwybrau i fyny ac i lawr o’r grib yn eithaf graddol. Mae’r grib yn weddol wastad. Ond mae’n serth iawn i lawr i’r bae nesaf.

 Ynhle?

Parciwch yn y maes parcio wrth ymyl yr harbwr. Croeswch y bont a throwch i’r chwith. Ymunwch â’r llwybr troed sy’n dringo drwy’r goedwig oddi wrth yr harbwr. Dilynwch hwn i fyny’r bryn nes i chi gyrraedd tro sydyn i’r dde sy’n mynd â chi ar hyd y Gribyn. Yna mae llwybr yn eich tywys yn syth yn ôl i lawr i’r harbwr. Eisiau dal i gerdded? Gallwch ddal i fynd ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro hyd nes y byddwch wedi cael digon ac yna dychwelyd yr un ffordd.

  • Aber Mawr, Mathri

Pam?

Rhagor o glychau’r gog a garlleg gwyllt, traeth gwych ac mae’n siŵr mai dim ond y chi fydd yno. Y dafarn agosaf yw’r Farmers Arms ym Mathri, sy’n lle gwych i gael cinio, neu’r caffi ym Melin Tregwynt lle gallwch brynu rhai o’u cynhyrchion gwlân Cymreig eiconig.

 Pa mor bell?

Bydd y daith i’r traeth ac yn ôl yn cymryd rhyw awr a hanner, yn dibynnu faint o amser fyddwch chi’n ei dreulio ar y traeth. Os ewch chi i Abercastell ac yn ôl hefyd, byddwch angen awr arall.

 Pa mor galed?

Mae’r llwybr drwy’r goedwig ac ar hyd Llwybr yr Arfordir i Abercastell yn hawdd. Mae’r llwybr i’r traeth ac yn ôl yn eithaf serth. Byddai’n ddoeth gwisgo wellingtons os yw hi wedi bod yn wlyb.

Ymhle?

O Fathri, dilynwch y ffordd tuag Abercastell am ryw filltir. Wrth y groesffordd, trowch i’r dde am ddwy filltir arall. Parciwch ychydig cyn i’r ffordd groesi pont a throi’n sydyn i’r dde. Fe welwch arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y glwyd. Dilynwch y llwybr ar draws y ddôl a thrwy’r goedwig (clychau’r gog ym mis Mai) nes i chi gyrraedd Llwybr yr Arfordir uwchben y traeth. Daliwch i fynd i’r chwith i Abercastell neu ewch ar y llwybr igam-ogam i lawr i’r traeth.

  • Yr Heol Aur, Bryniau’r Preseli

Pam?

Dyma ganolbwynt y diwylliant Celtaidd yng Nghymru yn yr Oes Efydd. Cerrig gleision Côr y Cewri, Bryngaer Foel Drygarn a’r olygfan uchaf yn Sir Benfro.

 Pa mor bell?

Mae hwn yn ddiwrnod llawn o gerdded, 15 milltir, os nad ydych am fynd i Foel Drygarn, bryngaer o’r Oes Efydd, yn unig, a fydd yn cymryd rhyw awr a hanner. Mae’r Dafarn Sinc a’r Hen Swyddfa Bost yn Rosebush yn lefydd hyfryd i gael cinio neu mae tafarn a chaffi yng Nghrymych.

 Pa mor galed?

Mae tir garw gweddol serth i fyny i Foel Drygarn ac mae’n waith digon caled ar hyd crib y Preseli. Gall fod ychydig yn gorslyd tuag at y pen gorllewinol, felly mae wellingtons yn syniad da!

 Ymhle?

Ym mhen deheuol Crymych ar yr A478 mae troad am Fynachlog Ddu a Maenclochog. Dilynwch y ffordd hon am ryw filltir. Yn syth ar ôl i’r ffordd droi i’r chwith, mae mynedfa a llwybr troed i fryniau’r Preseli. Anelwch yn syth i fyny’r bryn at y Fryngaer. Mae’r Heol Aur yn eithaf clir wrth anelu at y gorllewin ar hyd crib y Preseli. O Foel Eryr, pen draw’r daith, mae golygfeydd panoramig o Sir Benfro.

  • Dinbych-y-pysgod i Saundersfoot

Pam?

Rhagor o Glychau’r Gog!  Digonedd o ddewis amser cinio yn Saundersfoot.

 Pa mor galed?

Mae Llwybr yr Arfordir yn anwastad a thonnog yn y darn hwn felly mae’n ddoeth gwisgo esgidiau cerdded.

 Pa mor bell?

Dim ond dwy filltir i bob cyfeiriad, ond mae digon i’ch difyrru am ddiwrnod cyfan.

 Ymhle?

Parciwch ym maes parcio Traeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod. Cerddwch i fyny’r ramp i’r Crofft a throwch i’r chwith. Dilynwch Lwybr Arfordir Sir Benfro tua’r dwyrain. Ewch ar i lawr i draeth Waterwynch ar ôl rhyw filltir ac, os ydych yn teimlo’n anturus, a bod y llanw allan, sgrialwch i lawr i draeth Monkstone. Gallwch gerdded yr holl ffordd i Saundersfoot ar y traeth os yw’r llanw’n isel, ond os wnewch chi hynny fyddwch chi ddim yn gweld y clychau’r gog bendigedig yn y goedwig ar Lwybr yr Arfordir. Os oes awydd ymestyn y daith arnoch chi, cerddwch drwy’r hen dwneli i Coppet Hall, i’r caffi glan môr neu ymlaen i’r dafarn yn Wiseman’s Bridge.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi