Ymlaciwch wrth y tân ar ôl bod am dro

Cerdded yn y gaeaf

Swatiwch dan do wedi awyr iach y gaeaf

Cerdded yn y gaeaf

Efallai nad Sir Benfro fyddai eich dewis cyntaf o wyliau byr ganol gaeaf, ond bydd werth y siwrnai, credwch chi ni.   

Mae cymeriad cwbl wahanol i’r golygfeydd godidog yn y gaeaf, wrth i’r cymylau daflu eu cysgodion dros y tir wrth iddynt ysgubo ar draws yr awyr anferth.

Byddwch wrth eich bodd yn mynd am dro a mwynhau’r awyr iach, a hyd yn oed ar ddyddiau gwyllt o wynt a glaw, bydd digon o fannau i chi grwydro. Ac ar ddiwedd y dydd, fe fyddwch chi, a’ch bochau cochion, yn falch o swatio dan do i fwynhau bwyd da, diod boeth a sgwrs i dwymo’r galon.

Dyma chwech o’r goreuon. Joiwch!

Carningli, Trefdraeth

Prin yw’r llwybrau cerdded sy’n mynd o’r môr i gopa mynydd yng Nghymru sydd mor hygyrch â Charningli yn Nhrefdraeth. Mewn bore, gallwch badlo yn y môr ar y Parrog yn Nhrefdraeth ac yna ddringo 1138 o droedfeddi i fyny’r mynydd (ac yn ôl) – a’r cyfan cyn amser cinio.

Mae pobl leol o bob oed yn troedio’r llwybr hwn yn rheolaidd, ac mae’r golygfeydd yn rhyfeddol – felly ewch amdani!

Wedi cyrraedd yn ôl i Drefdraeth, bydd gennych ddewis o ddau le ardderchog i swatio o flaen y tân. Llys Meddyg, â’i danllwyth o dân yn y bar clyd ar y llawr isaf, neu dafarn y Golden Lion drws nesaf, lle cewch chi’r un croeso. Ac os fydd chwant bwyd arnoch chi, mae’r ddau le’n cynnig bwydlenni arbennig o dda.

Penrhyn Angle 

Mae’r llwybr cylchol hawdd hwn, sy’n cymryd hanner diwrnod, yn dechrau ym maes parcio Bae Gorllewin Angle, gan ddilyn Llwybr Arfordir Sir Benfro wrth iddo droelli ar hyd yr arfordir yn ôl i Angle. Byddwch yn cerdded ar hyd y clogwyni a thrwy goetir, ac yn croesi caeau nes i chi gyrraedd Bae Dwyrain Angle a thafarn yr Old Point House – i gael cinio a thwymo wrth y tân.

Wedi i chi fwynhau croeso cynnes y Point, ac os na fyddwch yn sownd yn y dafarn am awr fach arall oherwydd y llanw, gallwch gerdded yn ôl i Orllewin Angle ar hyd y ffordd, gan gerdded o naill ben y pentref i’r llall.

Capel y Santes Non

Tyddewi 

Mae rhywbeth braf iawn mewn gallu cerdded o ganol dinas i lawr at y môr, a hynny heb fod angen neidio i’r car. Bydd clogwyni garw Santes Non yn eich rhybuddio o dywydd y dydd, ac mae’n daith gerdded hyfryd i harbwr Porthclais lle gallech chi weld padlwyr dewr yn mentro i ddŵr y gaeaf er mwyn arfordiro neu gaiacio.

Ar ôl croesi’r caeau yn ôl i’r ddinas, anelwch am y Farmers Arms. Mae hon yn dafarn leol yng ngwir ystyr y gair, a chanddi far cysurus ac ystafell gyda lle tân sy’n denu pawb yn ystod y gaeaf. Fyddwch chi ddim yn hir cyn ymuno â sgwrs, a dysgu ambell i beth am Dyddewi mae’n siŵr.

Rosebush

Aiff y daith gylchol egnïol hon â cherddwyr, beicwyr a marchogion o ganol Rosebush, heibio olion Chwarel Lechi Bellstone i ardal goedwigaeth hamdden, Coedwig Pantmaenog.

Bydd y ffyrdd coedwigaeth yn mynd â chi i fyny’n raddol i’r ‘Heol Aur’ ar Grib y Preseli, ac os ddringwch chi ychydig eto, byddwch ar gopa uchaf Sir Benfro – sef Foel Cwmcerwyn – sy’n 1757 o droedfeddi o uchder. Os fydd hi’n braf, gallwch weld Sir Benfro i gyd, Gogledd Cymru, Gŵyr a hyd yn oed Iwerddon!

Wedi mynd yn ôl i lawr i Rosebush rhaid galw yn y Dafarn Sinc i roi diwedd hyfryd i’ch diwrnod; mae stof llosgi pren, bar unigryw a llond y lle o bobl yn siarad Cymraeg yno.

Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod

  • Pellter: 3 milltir
  • Amser: 1½ awr
  • Tanllwyth o dân: The Quay Rooms

Does fawr o drefi pertach na Dinbych-y-pysgod ac mae’n lle braf iawn i fynd am dro yn ystod y gaeaf, yn enwedig pan fydd hi’n sych. Dechreuwch ar draeth y Gogledd a cherdded drwy’r harbwr, o gwmpas Rhiw’r Castell, cyn mynd lawr i Draeth y De a cherdded yr holl ffordd ar draws y traeth i Drwyn Giltar ac yn ôl. Bydd Dinbych-y-pysgod yn y golwg drwy’r amser, felly gallwch frysio’n ôl os fydd y tywydd yn troi.

Bydd gwobr o siocled poeth, neu rywbeth ychydig yn gryfach, yn eich disgwyl chi (a’ch ci) wrth ymyl tanllwyth o dân yn y Quay Rooms, caffi clyd islaw bwyty Plantagenet House. Rhaid i chi gerdded i lawr stryd fach gobls i’w gyrraedd, felly byddwch yn teimlo fel petaech wedi darganfod ryw drysor cudd. Mae gan y tŷ simnai Ffleminaidd o tua’r 10fed ganrif, a llond lle o gymeriad.

Taith Gylchol Ystangbwll, Cei Ystangbwll

Dyma daith gerdded gylchol hyfryd sy’n cynnwys rhai o atyniadau naturiol gorau De Sir Benfro: traeth Barafundle, Pen Ystangbwll, traeth Aberllydan, pyllau lili Bosherston a’r bont wyth bwa. Os mai dim ond unwaith y byddwch chi’n mynd am dro y gaeaf hwn, dyma’r un.

Pan fyddwch chi wedi gorffen, ewch i’r Stackpole Inn lle bydd stof llosgi pren yn y bar uchaf yn disgwyl cerddwyr y gaeaf (a’u cŵn). Cynheswch wrth y tân gyda diod boeth, cinio ysgafn neu rywbeth arbennig o’r bwyty ardderchog. Ac os na allwch chi lusgo’ch hun oddi yno, mae gwely a brecwast ar gael hefyd.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi