Does dim byd tebyg i byllau glan môr

Fe synnwch chi beth ffeindiwch chi

Byd y cranc

Chwilota mewn pyllau glan môr

Y peth mwya cŵl o bell ffordd i’w wneud ar draethau Sir Benfro yw chwilota yn y pyllau glan môr!

Does dim byd gwell na bod ar eich pedwar ar y tywod yn llygadu’r dŵr i weld ai cranc welsoch chi’n dianc o dan rhyw wymon.

Yn ogystal â llygaid meheryn, gwichiaid, berdys ac anemonïau, mae’n debygol y gwelwch chi slefrenni môr, sêr môr, crancod a physgod hyd yn oed. Un tro, fe welson ni glamp o forgi yn Saundersfoot – mewn pwll glan môr!

Felly, dyma daflen fechan i’ch helpu i adnabod y creaduriaid yn ein pyllau glan môr!

Cyn i chi ddechrau:

  • Cofiwch ddychwelyd popeth y byddwch yn ei gasglu ac yn edrych arno, i’w fan gwreiddiol
  • Cofiwch roi unrhyw greigiau neu gerrig yn ôl yn ofalus iawn ar ôl eu troi, rhag ofn i chi aflonyddu ar gartref rhywun!
  • Cymerwch ofal ar greigiau neu wymon llithrig, a chofiwch gadw llygad ar yr amseroedd llanw lleol rhag ofn i chi fynd yn sownd.

Gallwch lawrlwytho ac argraffu ein taflen er mwyn mynd â hi gyda chi – cofiwch anfon lluniau o’ch antur atom! Gallwch ein tagio ni ar Facebook neu Twitter.

Mwynhewch y chwilota!

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi