Dringo dan do

Gwych ar gyfer dringwyr newydd a phrofiadol

Tad a mab anturus yn anelu’n uchel

Beth am ddringo dan do?

Y tad a mab anturus, Micha a Lleu, yn taclo wal ddringo

A hithau’n fwy na 10 metr o uchder, gyda dwy fetr o ordo hefyd, dylai’r Hangout, y wal ddringo dan do yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, fod yn ddigon o her i unrhyw un sydd am fentro.

Felly, dyma ni’n penderfynu gwisgo’n offer dringo, a mynd amdani gyda chymorth dau anturiaethwr dewr.

Yr anturiaethwyr: Micha (35) a Lleu (9)

Eich her, os fyddwch chi’n ddigon dewr i’w derbyn.

Her Micha a Lleu oedd dringo unrhyw un o’r 38 llwybr sydd ar y wal ddringo, a byw i ddweud yr hanes! Dyma’u profiad nhw…

I ffwrdd â Lleu i fyny’r llwybr glas, mae pob llwybr wedi’i raddio ac yn amrywio o lwybr 3 hawdd i 7c anodd. Cyn pen dim, mae’n ymestyn am y gafaelion canolig ar hyd y wal a dydy o ddim fel petai’n blino o gwbl!

Mae wedi bod yn dod yma i ddringo gyda Micha ers i’r wal agor, felly mae’n gyfarwydd â’r wal, ond nid â’r llwybrau newydd – maen nhw’n cael eu newid bob mis er mwyn cadw’r dringwyr ar flaenau’u traed.

Mae Lleu bron iawn â chyrraedd y nenfwd, felly dyma Micha’n dweud wrthym am y prawf cymhwysedd, awr o hyd (a gynhelir o leiaf deirgwaith yr wythnos) a gyflawnodd er mwyn iddo allu angori Lleu’n ddiogel wrth iddo ddringo, heb fod angen staff i’w oruchwylio. Fel hyn, gallan nhw ddefnyddio’r wal ddringo fel y mynnan nhw, heb orfod aros am ddosbarth.

Ond nid ar gyfer plant yn unig mae’r dosbarthiadau – mae Clwb Dringo Sir Benfro’n defnyddio’r wal ddringo dan do bob nos Lun hefyd.

Wedi i Lleu gyrraedd y nenfwd ac abseilio’n ôl i lawr y wal gyda chymorth ei dad, mae’n dangos rhai o’r sgiliau clymu cwlwm y bu’n eu dysgu ac yn dweud wrthym…

Dewisiadau eraill ar gyfer dringo

Mae Canolfan Ddringo Dan Do Overhang yn Ninbych-y-pysgod ar Draeth gwobredig y Castell ac ar agor drwy gydol y flwyddyn. Ceir sesiynau dan arweiniad hyfforddwr ar y wal ac allan ar rai o glogwyni arfordirol ardderchog Sir Benfro. Mae’n hwyl i blant, oedolion, grwpiau a phartïon.

Os hoffech fentro allan ar glogwyni mawreddog Sir Benfro, mae llawer o hyfforddwyr dringo cymwysedig a phrofiadol iawn yn barod i drosglwyddo’u gwybodaeth a’ch helpu i ddechrau diddordeb oes mewn dringo.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi