Gyda’i lleoliadau rhyfeddol

Mae Sir Benfro’n un o ffefrynnau Hollywood

Lleoliadau ffilmiau mawr

Ar drywydd Hollywood yn Sir Benfro

Mae Sir Benfro’r un mor enwog fel lleoliad ffilmiau Hollywood ag am ei harddwch.

Gyda’i golygfeydd panoramig, ei thraethau perffaith a’i harfordir dramatig, does dim syndod bod y sir yn lleoliad perffaith ar gyfer cyfarwyddwyr ffilm a theledu.

Os ydych chi’n gwybod rhywfaint am ffilmiau a theledu, neu’n gwybod dim am ein cysylltiadau â’r byd hwnnw, dilynwch yn ôl traed sêr Hollywood o gwmpas y sir…

  • Sherlock

Ynys Catrin, Dinbych-y-pysgod, yw’r lleoliad ffilmio diweddaraf, a hynny ar gyfer sioe deledu boblogaidd y BBC, Sherlock. Gwelwyd baner gelyn pennaf Sherlock, Moriarty, yn hedfan uwchben yr hen gaer.

Defnyddiwyd yr ynys neu ‘Sherrinford’ (i roi enw’r gyfres iddi) yn lleoliad diogel ar gyfer Eurus, chwaer Sherlock.

Yn wreiddiol, roedd yr ynys, a gwblhawyd ym 1870, yn amddiffynfa filwrol yn erbyn y Ffrancod. Erbyn hyn, mae Ynys Catrin ar gau i ymwelwyr … heblaw Sherlock Holmes wrth gwrs.

  • Their Finest

Dychwelodd Sam Claflin i Sir Benfro, a’r tro hwn gyda Gemma Arteton, Bill Nighy a Jeremy Irons i ffilmio’r comedi Their Finest. Wedi’i osod yn y 1940au, mae’n adrodd hanes gwneuthurwyr ffilm sy’n ceisio gwneud ffilm wladgarol am Dunkirk er mwyn rhoi hwb i forâl yn ystod y Blitz.

Harbwr Porthgain, Cei Cresswell a Freshwater West oedd y lleoliadau a ddewiswyd ar gyfer ffilmio, gyda Freshwater West yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Dunkirk.

  • You Before Me

Daeth y sêr Sam Claflin, Emilia Clarke a Matthew Lewis (Neville Longbottom yn ffilmiau Harry Potter) i Benfro i ffilmio’r addasiad o nofel boblogaidd Jojo Moyes, ‘You Before Me’.

Digwyddodd y ffilmio ar hyd y Stryd Fawr yn y dref, yng Nghastell Penfro ac ar hyd pwll y felin. Mae’r ffilm yn cynnwys golygfeydd rhyfeddol o Gastell Penfro wedi’u ffilmio o’r awyr.

  • Under Milk Wood

Cafodd y fersiwn ffilm ddiweddaraf o Under Milk Wood Dylan Thomas ei ffilmio ym mhentref Solfach.

Bydd y ddrama’n ymddangos am yr eildro ar y sgrin fawr i nodi canmlwyddiant ers geni’r bardd.

Rhys Ifans sy’n chwarae’r prif ran, sef y Llais Cyntaf yn y ddrama sydd wedi’i ffilmio yn Gymraeg a Saesneg. Kevin Allen – brawd Keith – yw’r cyfarwyddwr.

Mae Under Milk Wood wedi’i gosod mewn tref glan môr ddychmygol yng Nghymru o’r enw Llareggub (‘bugger all’ wedi’i sillafu am yn ôl).

Ym 1972, serennodd Richard Burton yn y fersiwn sgrin gyntaf o ‘ddrama leisiau’ Dylan Thomas, ynghyd ag Elizabeth Taylor, Peter O’Toole a Vivien Leigh, wedi’i ffilmio ar leoliad yng Nghwm Abergwaun.

Ddwy flynedd a deugain yn ddiweddarach, gwahoddodd y ddrama radio, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym 1954, bobl leol i ymddangos fel ecstras yn y ffilm, felly efallai y gwelwch chi ambell i wyneb cyfarwydd yn crwydro’r strydoedd!

  • Robin Hood

Freshwater West oedd cefndir golygfeydd brwydr Syr Ridley Scott yn ei fersiwn o Robin Hood, gyda Russell Crowe a Cate Blanchett.

Bu’r criwiau ffilmio’n byw mewn gwestai lleol yn ystod haf 2009, gan dreulio pum wythnos yn ffilmio.

Bu dros 800 o gast a chriw ar y traeth, gan gynnwys 450 o ecstras, yn ffilmio golygfeydd brwydr epig ar gyfer cynhyrchiad Universal Pictures. Hefyd, ymddangosodd 130 o geffylau, a gadwyd mewn stablau gerllaw, ac adeiladwyd pentref canoloesol, yn cynnwys cytiau to gwellt, cwryglau traddodiadol a llochesau dros dro.

Gemma Arterton a Sam Claflin yn ‘Their Finest’, ar leoliad ym Mhorthgain
  • Harry Potter

Bu Freshwater West hefyd yn gartref dros dro i Harry Potter a’r bwthyn cregyn hardd, a ddenodd dorfeydd o ffans oedd yn awyddus i gael cip olwg o’u hoff sêr.

Wedi’i adeiladu yng nghanol twyni tywod y traeth syrffio poblogaidd, roedd y bwthyn cregyn fel petai’n ymddangos drwy hud a lledrith yn ffilm olaf yng nghyfres hynod lwyddiannus Harry Potter gan J.K. Rowling.

Bu rhai ffans yn ddigon ffodus i gael llofnodion rhai o’r sêr, gan gynnwys Harry Potter ei hun, Daniel Radcliffe.

  • Snow White and The Huntsman

Dewiswyd traeth rhyfeddol Marloes ar gyfer rhai o’r golygfeydd brwydro dramatig yn y ffilm Snow White and the Huntsman, portread Universal Pictures o stori dylwyth teg Eira Wen, gyda Kristen Stewart, o’r ffilmiau Twilight, a’r actor o Awstralia, Chris Hemsworth.

Ymsefydlodd criw o gannoedd mewn gwersyll ar y clogwyni uwchlaw’r traeth a gallai unrhyw un gael cip ar y cyffro’n hawdd o lwybr yr arfordir. Yn ystod y ffilmio, bu hyd at 80 o geffylau a marchogion mewn arfwisgoedd a gwisgoedd, yn taranu i fyny ac i lawr y traeth.

Yn y ffilm, fe welir Kristen a’i chriw yn anelu am gastell y frenhines ddrwg (Charlize Theron) gyda thywod yn chwyrlïo o’u cwmpas, ond cafodd y tyrau tylwyth teg eu hychwanegu gan gyfrifiadur ar dir gwastad Ynys Gateholm, sydd, yn gyfleus iawn, o fewn llathenni i’r pentir.

Defnyddiwyd Traeth Marloes hefyd fel lleoliad ar gyfer y ffilm, The Lion in Winter, gyda Peter O’Toole, Katharine Hepburn ac Anthony Hopkins yn 1968.

  • The Edge of Love

Yn 2007, gwelwyd sêr Hollywood yn Ninbych-y-pysgod pan gyrhaeddodd Sienna Miller a Keira Knightley y lle gwyliau poblogaidd i ffilmio ffilm Dylan Thomas arall.

Roedd The Edge of Love yn canolbwyntio ar driongl cariad honedig rhwng y bardd, ei wraig Caitlin, a’i gyfaill bore oes, Vera Phillips. Sienna Miller oedd yn chwarae rhan Caitlin nwydwyllt, a Keira Knightley oedd Vera. Y Cymro Matthew Rhys oedd yn actio rhan Dylan Thomas, a Cillian Murphy oedd William Killick, gŵr Vera

  • Third Star

Defnyddiwyd Bae Barafundle, a enwir yn rheolaidd ymhlith y traethau prydferthaf yng Nghymru, os nad y byd, yn brif leoliad y ffilm Third Star yn 2010. Mae’r ffilm yn cynnwys seren Sherlock, Benedict Cumberbatch, ac wedi’i hysgrifennu gan Vaughan Sivell, a anwyd yn Sir Benfro.

Wedi iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 29, a fydd fel y gŵyr pawb, gan gynnwys ef ei hun, yn ben-blwydd olaf iddo, mae James, dyn ifanc sy’n dioddef o ganser terfynol, yn mentro ar un daith gerdded olaf gyda’i dri ffrind gorau, Davy, Bill a Miles. Diwedd eu taith yw hoff draeth James – Barafundle.

Dros y degawdau, mae Sir Benfro wedi bod yn seren ac wedi croesawu actorion fel Helena Bonham Carter, Russell Crowe, Emma Watson, Gregory Peck, Anthony Hopkins, Peter O’Toole a Richard Burton.

Mae Sir Benfro wir yn sir y sêr. Felly i ffwrdd â chi i ddilyn ôl troed eich hoff actorion Hollywood. Ydych chi’n bwriadu ymweld â lleoliad ffilm? Yna chwiliwch am lety yn agos i set ffilm penodol neu ewch i’w gweld i gyd.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi