48 awr yn Nhrefdraeth

Gymaint i’w weld, i’w wneud a’i fwyta!

Traethau anhygoel, bwyd ardderchog a llwybrau syfrdanol

48 awr yn... Nhrefdraeth

Ym mhob tymor, ac ym mhob tywydd, mae tirwedd hudolus Trefdraeth yn siŵr o’ch swyno.

Dyma ardal boblogaidd gydag artistiaid sy’n cynnig siopau bwyd cyflawn, celf gydweithredol, caffis stryd a rhai o’r bwytai gorau yn Sir Benfro.

Diwrnodau llawn dop.

Ewch i gaffi Blas yn Fronlas neu gaffi PWNC i gael brecwast cyn crwydro o gwmpas y dref. Cofiwch ymweld â chanolfan Carningli a Chydweithfa Trefdraeth – cydweithfa sy’n arddangos gwaith amrywiol artistiaid y fro.

Mae Trefdraeth yn un o’r ychydig leoedd y gallwch chi gerdded o’r môr i gopa, a hynny mewn bore hamddenol. Carningli yw’r mynydd uwchlaw’r dref a bydd pobl leol o bob oed yn ei ddringo’n aml, drwy gydol y flwyddyn – felly ewch amdani!

Efallai y byddwch awydd cinio ar y copa, felly cyn gadael, ewch i brynu picnic organig o fara, caws a salad lleol yn y siop bwydydd cyflawn.

Yn y prynhawn, gallwch ddal i gerdded, y tro hwn o’r Parrog i Draeth Mawr Trefdraeth, o gwmpas y foryd; cofiwch alw yn Seaglass Bistro yng nghlwb golff Trefdraeth am baned a chacen, a golygfeydd ysblennydd, cyn cerdded am adref.

Traeth Mawr Trefdraeth

Gyda’r nos, mae digon o ddewis ardderchog ar gyfer eich swper. Mae gwesty a bwyty gwobredig Llys Meddyg yn cynnig prydau o’r bwyd lleol gorau sydd ar gael yn yr ardal.

Os hoffech rywbeth llai ffurfiol, cewch bitsa hyfryd yn y Canteen. Mae dwy dafarn hefyd, y Castell sy’n cynnig bwyd tafarn da a’r Royal Oak sydd â dewis gwych o gyri.

Mae bwyd rhagorol i’w gael ym mwyty tafarn y Golden Lion, ac mae Tides Kitchen & Wine Bar yn arbenigo mewn bwyd môr a chynhwysion lleol, a nosweithiau ’sgod a swigod bob nos Iau.

Mae trigolion Trefdraeth wrth eu bodd gyda pharti, felly cofiwch holi am ddigwyddiadau yn y Neuadd Goffa, gigs gardd yn Llys Meddyg neu gerddoriaeth fyw yn y Golden Lion. Ychydig i’r de mae Abergwaun, lle mae sinema theatr gymunedol a cherddoriaeth Geltaidd yn y lle poblogaidd diweddaraf, sef y Ffwrn.

Y Golden Lion, Trefdraeth

Os ydych yma am dipyn o amser.

Gallwch gerdded i bedwar gwahanol gyfeiriad o Drefdraeth, heb orfod dychwelyd yr un ffordd.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd drwy’r Parrog yn Nhrefdraeth gan gynnig dwy daith gerdded drawiadol, o Abergwaun ac o Draeth Poppit. Cofiwch neidio ar fws Roced Poppit – bydd reid allan o’r dref, i’r naill gyfeiriad neu’r llall yn golygu y gallwch gerdded yn hamddenol yn ôl i Drefdraeth gan fwynhau golygfeydd rhyfeddol llwybr yr arfordir ar y ffordd.

Os yw dringo Carningli wedi codi awydd arnoch chi am gerdded mwy, mentrwch ymhellach i Fynyddoedd y Preseli am ragor o gopaon a golygfeydd di-ben-draw cyn belled ag Iwerddon a Gogledd Cymru.

Mae mwy o antur yn eich disgwyl yn harddwch Cwm Gwaun. Yma mae dau ficrofragdy, gwneuthurwyr canhwyllau, gerddi Penlan Uchaf a rhai o’r coetiroedd hynaf yng Nghymru, heb sôn am y Dyffryn Arms – neu ‘Dafarn Bessie’ i’r bobl leol. Dyma un o’r profiadau mwyaf rhyfeddol a gewch chi mewn tafarn yn Sir Benfro.

Gwlad y ceffylau gwyllt yw Tir Comin Carningli, ac ar gefn ceffyl yw’r ffordd orau o fwynhau’r dirwedd hon. Mae nifer o stablau marchogaeth lleol yn cynnig teithiau allan i’r waun ac i Gwm Gwaun – profiad bythgofiadwy.

Mae’n werth aros tan fore Llun pan fydd Stryd y Farchnad yn cau i draffig ac yn troi’n farchnad gynnyrch fywiog. Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth fyw, byrddau caffi ar y stryd ac awyrgylch marchnad cofiadwy.

Comin Carningli, Trefdraeth

I’r rhai ohonoch sy’n hoff o chwedlau.

Mae Sir Benfro’n fyw o chwedlau ac os mai hanes sy’n mynd â’ch bryd, byddwch wrth eich bodd yng Nghastell Henllys. Dewch i ddarganfod y Celtiaid yn y gaer fyw hon o’r Oes Haearn, a dysgu rhagor am y dirwedd hynafol yma.

Ar eich ffordd yn ôl, ewch i siambr gladdu neolithig Pentre Ifan a choedwig dderw hynafol Tŷ Canol, ychydig i’r dwyrain o Drefdraeth. Dyma dir y chwedlau a’r straeon tylwyth teg llawn hud a lledrith – lle perffaith i danio’r dychymyg!

 Ac i’r rhai sy’n hoff o ramant.

Os am ramant, ewch i Lys Meddyg sy’n adnabyddus am ei ystafelloedd hardd a’i fwyty moethus.

Ac i’r llysieuwyr yn eich plith, y Cnapan yw’r lle am bryd yr un mor flasus.

Fore Sul, mae’n werth gwneud y daith fer i Abergwaun i gael crempogau ganol bore yn Ffwrn. A beth am dreulio gweddill y dydd yn ymweld â gardd Dyffryn Ffernant, crwydro llwybrau Cwm Gwaun a mwynhau’r golygfeydd o Fynyddoedd y Preseli ar y ffordd yn ôl.

Trefnwch eich dihangfa berffaith heddiw.

Darllenwch am ragor o drefi Sir Benfro yn ein cyfres ’48 awr yn…’.  Arberth, Penfro, Tyddewi, Abergwaun neu Ddinbych-y-pysgod – mae digon i’ch ysbrydoli.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi