Ewch â’ch ci...

...am hwyl ar hyd y traethau

Mae pob un o draethau Sir Benfro, dros 50 ohonynt, yn croesawu cŵn.

Traethau sy’n croesawu cŵn yn Sir Benfro

Gallwch ddewis traeth euraidd eang, fel Marloes, neu fae diarffordd fel De Aberllydan 

Yng nghanol tymor yr haf, o Fai 1af hyd ddiwedd Medi, ni chaniateir cŵn yn rai rhannau o’r traethau sydd fwyaf poblogaidd gyda nofwyr (gan gynnwys Poppit, Niwgwl, Aberllydan, Dale, Lydstep, De Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot ac Amroth) Ar ddau draeth, Porth Mawr a Gogledd Dinbych-y-pysgod, gan gynnwys traeth yr harbwr, bydd y gwaharddiad yn berthnasol i’r traeth cyfan. Mae gwaharddiad gwirfoddol ar gŵn ar draeth Coppet Hall.  

Mae croeso i gŵn tywys ar holl draethau Sir Benfro trwy gydol y flwyddyn.  

Mae hysbysfyrddau gyda holl fanylion yr is-ddeddfau yn ogystal â mapiau o’r ardaloedd gwahardd i’w cael ar yr holl draethau uchod sy’n gwahardd cŵn. Yn ystod yr haf, mae arwyddion yn cael eu gosod ar y traeth i’ch helpu i adnabod ffiniau’r ardaloedd gwahardd cŵn, neu gallwch holi’r gwylwyr RNLI sydd yno, byddant yn siwr o’ch rhoi ar ben ffordd.  

Er hyn, bydd gennych filltiroedd a milltiroedd o draethau i fynd â’r ci am dro, ac mae tymhorau tawelach y gwanwyn a’r hydref, pan fydd y traethau’n llai prysur, yn adegau perffaith i ddod ar wyliau. Mae Sir Benfron croesawu eich cŵn, ond cofiwch fod yn ystyrlon o eraill sy’n defnyddio’r traeth, a chofiwch godi baw eich ci.  

Ewch i’r dudalen lawrlwythiadau er mwyn gweld mapiau o’r ardaloedd gwahardd.  

Chwilio am rywle i fynd â’ch ci am dro?  Dyma Mollie’r ci defaid yn cyfweld chwech o’i ffrindiau lleol er mwyn cael gwybod ble mae eu hoff fannau i fynd am dro yn Sir Benfro. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi