Gwyliau i Mot hefyd!

Llety croesawgar sy’n gwneud gwyliau da

Pam fod Sir Benfro’n lle mor arbennig i chi â’ch ci?

Gwyliau yn Sir Benfro sy’n croesawu cŵn

Does unman gwell na Llwybr Arfordir Sir Benfro: 186 milltir o harddwch rhyfeddol. 

Bydd hynny’n ddigon i’ch blino chi a’ch ci! A gallwch hefyd grwydro lonydd tawel cefn gwlad, neu’r rhwydwaith o lwybrau cerdded a llwybrau marchogaeth drwy goedwigoedd a hyd afonydd y fro. Darllenwch argymhellion Mollie’r Ci Defaid a’i ffrindiau am lefydd da i fynd â’ch ci am dro, a lawrlwythwch y Côd Cerdded Cŵn er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel.  

Mae dros 50 o draethau yn Sir Benfro, rhai’n dywod euraid eang, eraill yn faeau bychain diarffordd. Llefydd gwych i fynd am dro – yn enwedig yn ystod tymhorau tawel y gaeaf a’r hydref. Mae cŵn yn cael eu gwahardd o rai traethau rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Defnyddiwch ein mapiau defnyddiol i weld os bydd cyfyngiadau ar eich hoff draeth chi. Mae croeso i gŵn tywys ar draethau Sir Benfro trwy gydol y flwyddyn.  

Bydd gennych ddigon o ddewis o ran llety sy’n croesawu cŵn, lle cewch ddewis da o gyfleusterau a chroeso mawr i chi a’ch ci. 

"Mae’n ardal mor hardd a pherffaith i fynd ar wyliau, ac rydw i wedi bod yn dod yma bob blwyddyn ers pan oeddwn i’n blentyn. Byddwn yn sicr yn ei argymell fel lle gwych ar gyfer gwyliau "

Louise, ar Facebook