Datblygu sgiliau neu roi tro ar rywbeth newydd

Byddwch yn synnu beth allwch chi’i wneud

Hyfforddiant yw’r ffordd orau os am roi tro ar rywbeth newydd

Gwyliau egnïol yn Sir Benfro

Dim byd ffurfiol, dim gwerslyfrau, dim ond dysgu o brofiad a thrwy roi tro arni.

Mae digonedd o hyfforddwyr cymwys gwych i’w cael yn Sir Benfro, a gallant eich cyflwyno i ddim llai na 15 gweithgaredd antur cyffrous, fel paragleidio, padlfyrddio, deifio, ac arfordira.  

Gallwch aros hefyd yn un o’r canolfannau gweithgareddau. Gallant drefnu eich holl sesiynau gweithgareddau a’ch llety.  

Mae’r math yma o wyliau egnïol yn syniad gwych ar gyfer grwpiau o ffrindiau sydd am gwrdd a rhoi’r byd yn ei le. Ond nid grwpiaun unig all fwynhau’r canolfannau yma, mae sawl un yn cynnig gwyliau gweithgareddau ar gyfer teuluoedd, a chyfle i lusgo mam a dad allan o’u rhigol ac i mewn i’r môr- yn llythrennol! 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi