Ymlaciwch, rydych wedi gwneud eich rhan

Llety a gweithgareddau gwyrdd fydd yn cadw pawb yn hapus

Does dim rhaid i wyliau cyhaladwy olygu cyfaddawd o ran steil nac ansawdd

Gwyliau cynaliadwy yn Sir Benfro

Ydych chi’n gyfarwydd â Glampio? Pebyll, tipis, iwrtau a geo-ddômau bendigedig gyda lloriau pren, gwelyau mawr braf, a thannau coed i’ch cadw’n glyd a chynnes drwy’r nos.

Cabanau eco pum seren sy’n debycach i westai crand na chabanau, ac ysguboriau hardd sy’n cynhyrchu eu hynni eu hunain ac yn defnyddio golau’r haul i gynhesu’r dŵr. Mae’r dewis yn ddiddiwedd 

Os ydych am grwydro, gallwch drefnu i deithio ar feic neu fws. Mae’r llwybrau beicio a’r clytwaith o ffyrdd tawel yn ei gwneud yn hawdd beicio, ac mae gwasanaethau bysiau’r arfordir yn cysylltu cymunedau diarffordd ac atyniadau ar hyd yr arfordir. 

Mae Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro wedi gwneud y broses o ddewis darparwyr gweithgareddau yn un hawdd. Dyma grŵp o bobl o’r un meddylfryd sy’n ymdrechu i sicrhau nad yw eu gweithgareddau antur yn niweidio arfordir a bywyd gwyllt Sir Benfro.  

Ac mae Sir Benfro hefyd yn ffodus o fod â rhwydwaith eang o gynhyrchwyr bwyd ledled y sir. Felly pan fyddwch naill ai’n prynu cynhwysion o farchnad ffermwyr neu’n bwyta yn ein bwytai blasus, does dim angen poeni am y milltiroedd bwyd – wedi’r cwbl, pa mor bell ydy ‘rownd y gornel’?! 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi