Croeso i Sir Benfro. Yn ddiogel

Croeso’n ôl. Mae wedi bod yn sbel.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eich gweld yn ôl ond deallwn y gallwch fod yn pryderu rhywfaint ynghylch eich diogelwch. Mae rhai rhannau o’n cymunedau’n pryderu hefyd y gallai’r feirws gynyddu unwaith y dechreuwn ailagor yn araf i ymwelwyr.

A dyna pam y buom yn gweithio mor galed yn Sir Benfro i’w gwneud yn ddiogelach i chi a’n cymunedau pan fyddwch yn ymweld â ni.

Buom yn sefydlu mesurau cadw pellter cymdeithasol a gwell hylendid i sicrhau bod pawb mor ddiogel ag y bo modd a gwneud yn siŵr ein bod yn ‘Barod i Fynd’.

Fel ym mhobman arall, bydd pethau ychydig yn wahanol a bydd angen i chi ymchwilio, cynllunio ac archebu o flaen llaw.

  • Bydd angen archebu llety cyn i chi deithio.
  • Bydd angen archebu atyniadau o flaen llaw hefyd – gwelwch eu gwefan i gael manylion oherwydd y bydd gan bob un drefn wahanol.

Mae bywyd yn Sir Benfro’n hamddenol eisoes ond fe all pethau gymryd ychydig yn hwy. Felly, cofiwch fod yn amyneddgar a pharchu eich gilydd a mynd gyda’r llif.

Mae pawb yn caru’r arfordir. Fel rhai sy’n byw ar ynys, cawn ein denu yno, ond fe all fynd yn brysur.

Beth am ddarganfod rhywle gwahanol, ymhell o’r torfeydd? Anelu am ein tirwedd las doreithiog ar ddeudroed neu feicio i ddatgelu’r gwir Sir Benfro: ein cymoedd, bryniau a dyfrffyrdd. Gallech ddarganfod eich hoff le newydd.

"I can highly recommend Pembrokeshire - it has everything for a great holiday!"

Valery Collins, Experienced Traveller